Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Leinster 54-5 Scarlets
- Cyhoeddwyd
![Leinster Scarlets](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/DE7C/production/_131765965_mediaitem131762810.jpg)
Colli'n drwm fu hanes y Scarlets yn Iwerddon nos Sadwrn wrth i Leinster eu curo 54-5.
Sgoriodd y tîm cartref wyth cais, gyda Johnny William yn sgorio unig gais yr ymwelwyr.
Cafodd y Scarlets ddechrau anffodus wrth i Williams gael ei anfon i'r gell gosb yn y munudau agoriadol, a manteisiodd y Gwyddelod ar hynny gyda chais i'r maswr Prendergast.
Roedd Leinster - a oedd yn croesawu 10 chwaraewr a fu'n cynrychioli Iwerddon yng Nghwpan y Byd yn ôl i'r garfan - yn llawer rhy gryf i'r Scarlets ar y noson.