Cyhuddo dyn ifanc o Abertawe o drosedd terfysgol
- Cyhoeddwyd

Mae dyn 18 oed o Abertawe wedi ymddangos gerbron Llys Ynadon Westminster wedi'i gyhuddo o drosedd yn ymwneud â therfysgaeth.
Mae Alex Hutton, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Alex Edwards, yn wynebu cyfanswm o bum cyhuddiad.
Mae'r rheiny'n cynnwys lledaenu cyhoeddiad terfysgol, achosi a cheisio achosi niwed corfforol, a bod ag arf yn ei feddiant mewn man cyhoeddus.
Cafodd Mr Hutton, o ardal Treforys, ei gadw yn y ddalfa ac mae disgwyl iddo ymddangos nesaf yn y Llys Troseddol Canolog ar 24 Tachwedd.