Doctor Who wedi cyfrannu'n sylweddol i economi Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r tîm ddaeth â Doctor Who i Gymru yn 2005 yn dweud i'r penderfyniad fod yn un hyderus a'i fod wedi creu "miloedd o swyddi" yn y diwydiant cynhyrchu ffilm a theledu.
Cymru yw cartref y rhaglen ers 2005, yn gyntaf gan BBC Cymru a nawr gan gwmni cynhyrchu Bad Wolf yng Nghaerdydd.
Mae cynhyrchiad Doctor Who wedi cyfrannu dros £134m i economi Cymru, tra bod diwydiant drama teledu ehangach wedi tyfu o'i gwmpas.
Dywedodd un o benaethiaid Channel 4 bod Cymru bellach yn ddewis amlwg i gynhyrchwyr teledu ledled y byd.
Doctor Who yn dathlu'r 60
Mae Doctor Who yn dathlu 60 mlynedd eleni ac mae amrywiol ddigwyddiadau yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd.
Ddydd Iau bydd tafluniad dŵr arbennig ar ôl iddi dywyllu ym Mae Caerdydd yn tywys cynulleidfaoedd ar daith drwy 60 mlynedd o'r rhaglen.
Eleni bydd David Tennant yn serennu mewn tair pennod a ddydd Nadolig bydd yr actor Ncuti Gatwa yn llywio'r Tardis.
Cafodd Caerdydd ei ddewis fel cartref i Doctor Who gan y BBC yn 2004 a chychwynnodd y ffilmio y flwyddyn ganlynol.
Fe lwyddodd Jane Tranter, comisiynydd drama y BBC ar y pryd, i berswadio pennaeth drama BBC Cymru, Julie Gardner, i weithio gyda Russell T. Davies i greu'r gyfres newydd yng Nghaerdydd.
Mae'r tri bellach yn cydweithio unwaith eto wrth i gwmni cynhyrchu Tranter a Gardner, Bad Wolf, gynhyrchu Doctor Who i'r BBC, gyda Davies yn ysgrifennu'r sgriptiau.
Pan ofynnwyd iddi am y risg wreiddiol i ail-lansio'r sioe a lleoli'r cynhyrchiad yng Nghymru, dywedodd Jane Tranter: "I fi mae'n gam sy'n dangos hyder. Neu bloody-minded determination mai dyma beth rydyn ni'n mynd i'w wneud.
"Wnes i erioed deimlo ei bod hi'n risg dod â Doctor Who yn ôl, a chyn gynted ag yr oedd Julie a Russell T. Davies yn gysylltiedig â'r peth, doeddwn i ddim yn meddwl ei fod yn mynd i fod yn risg o gwbl."
Yn fuan iawn fe ddaeth Caerdydd yn gefndir i'r Doctor ar ei newydd wedd.
Christopher Eccleston oedd yn y Tardis wrth i'r gyfres ail-gychwyn yn 2005.
Dilynwyd e gan David Tennant, Matt Smith, Peter Capaldi a Jodie Whittaker ac mae cryn edrych ymlaen at ddychweliad Tennant am dair pennod i nodi trigain mlynedd ers creu'r sioe.
Galw cynyddol am ddramâu teledu o safon
Mae llwyddiant Doctor Who wedi cyd-fynd â'r galw cynyddol am ddramâu teledu o safon uchel, ac mae gan y sector cynhyrchu Cymreig safonau uchel.
"Rydyn ni bob amser wedi credu bod y criwiau yma, bod y lleoliadau yma, a bod Cymru'n rhywle llawn posibiliadau diddiwedd," meddai Julie Gardner.
Yn ôl adroddiad gan y BBC ar effaith economaidd Doctor Who, mae'r gyfres wedi cyfrannu mwy na £134m i economi Cymru a chyfanswm o £256m i'r economi ledled y DU.
Ond fe sbardunodd hefyd fuddsoddiad mawr gan gwmnïau cynhyrchu eraill a gafodd eu perswadio i ffilmio yng Nghymru ar ôl bod yn dyst i lwyddiant y Doctor.
Mae penaethiaid y cwmnïau darlledu "yn teimlo os nad ydyn nhw yn creu cynnwys yng Nghymru, bo nhw ddim yn rhan o'r zeitgeist", meddai golygydd comisiynu Channel 4.
Fe gychwynnodd Gwawr Martha Lloyd ei gyrfa gyda'r BBC ac S4C, ac mae bellach yn gweithio i Channel 4 wrth i'r darlledwr gynyddu'r cynnwys maent yn cynhyrchu y tu hwnt i Lundain.
Dywedodd ei fod yn "trendy iawn i fod yn ffilmio yng Nghymru".
"Yn sicr mae'n teimlo bod yr arbenigedd yma i allu cyflawni'r sioeau hyn. Dy'n ni ddim bellach yn dod â phobl mewn o bob cwr o Brydain er mwyn sicrhau safon."
Wrth roi clod i waith S4C yn y maes ers yr 1980au, dywedodd bod y sianel Gymraeg "wedi cynnal y sector, o ran drama... ac wedi creu cyfresi arbennig cyn cyfnod Doctor Who, a cyn cyfnod Y Gwyll.
"Mae'r sail yna yn gadarn, ma' gyda ni lot i ddiolch i bobl oedd yn gwneud y gwaith yna. Gwaith arbennig, creadigol a gwreiddiol."
Mae cwmnïau sy'n cyflenwi'r cynyrchiadau mawr wedi elwa wrth ymsefydlu yng Nghymru.
"Doedd gen i ddim syniad y byddai mor boblogaidd ag y mae nawr," medd Danny Hargreaves a ddarparodd effeithiau arbennig ar gyfer y gyfres gyntaf o Doctor Who cyn agor ei gwmni Real SFX yn 2008.
Mae'n dal i wneud ffrwydradau a stormydd eira ar gyfer Doctor Who ac mae ei weithdy yng Nghaerdydd yn gartref i'r offer diweddaraf.
Mae Danny wedi gweld effaith ehangach y gyfres deledu eiconig ar sector cynhyrchu Cymru.
"Roedd [Doctor Who] yn gatalydd i greu diwydiant eithriadol yng Nghymru, ac mae llawer o gynyrchiadau gwahanol o bob rhan o'r byd wedi ffilmio yma ers hynny."
Dywedodd Russell T. Davies y byddai wedi "gwrthod" gwneud y gyfres yn Llundain ar y pryd.
"Dwi wedi byw ym Manceinion ers blynyddoedd lawer, fe wnes i Queer as Folk yno, a dwi wedi gwneud amryw ddramâu gyda naws Manceinion.
"Ond dwi'n Gymro cadarn, felly roedd dod â'r gyfres yma yn gyfle gwych.
"Dwi'n meddwl pe bydden nhw wedi gofyn i mi wneud Doctor Who yn Llundain, byddwn i wedi gwrthod.
"Doedd gen i ddim awydd o gwbl, a fyddwn i ddim eisiau gweithio yn Television Centre, byw'r bywyd hwnnw, neu golli'r arian rydych chi'n ei golli dim ond trwy fyw yn Llundain oherwydd ei fod mor ddrud! Felly roeddwn i'n hapus iawn i ddod yma."
Mae'r tafluniad dŵr arbennig, a gomisiynwyd gan BBC Cymru, yn dechrau ddydd Iau - Diwrnod Doctor Who - ac mae'n rhedeg tan ddydd Sadwrn ym Masn y Rhath ym Mae Caerdydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2018