S4C: Cyn-brif swyddog gafodd ei diswyddo 'wedi cael ei bwlio'

  • Cyhoeddwyd
Llinos Griffin-WilliamsFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Llinos Griffin-Williams ei diswyddo fel Prif Swyddog Cynnwys S4C fis diwethaf

Mae un o gyn-brif swyddogion S4C a gafodd ei diswyddo fis diwethaf wedi iddi gael ei chyhuddo o gamymddwyn difrifol, wedi taro'n ôl yn erbyn cadeirydd y sianel, gan ddweud iddi gael ei diswyddo yn "annheg" ac iddi hi ddioddef "ymddygiad anaddas" yn ei herbyn.

Mewn llythyr drwy law ei chyfreithwyr at brif ohebydd rhaglen Newyddion S4C, Gwyn Loader, dywed Ms Griffin-Williams ei bod wedi "torri ei chalon" oherwydd ei "diswyddiad annheg".

Yn ôl S4C, fe gafodd Ms Griffin-Williams ei diswyddo "wedi iddyn nhw dderbyn honiadau am ei hymddygiad" ac ar sail "cyngor cyfreithiol manwl".

Mewn datganiad ar ei rhan, mae ei chyfreithwyr yn nodi mai ei hamcan fel Prif Swyddog Cynnwys y sianel oedd "mynd â chynnwys Cymraeg i'r byd, gwella mynediad i'r Gymraeg drwy gynnwys Cymraeg amrywiol a hygyrch, hyrwyddo talent Cymreig ar y sgrin a chefnogi sector cynhyrchu sydd yn ffynnu."

Dywed iddi gael ei diswyddo gan Gadeirydd S4C Rhodri Williams ac iddo "ymddwyn yn unigol heb yn wybod i'r Tîm Rheoli... a Bwrdd S4C".

'Dim cyfle i gyflwyno tystiolaeth'

Mae Newyddion S4C yn deall bod rhan o'r rheswm iddi gael ei diswyddo yn ymwneud â sylwadau honedig a wnaeth hi i gyn-fewnwr Cymru, Mike Phillips, oedd yn aelod o dîm cyflwyno S4C o Gwpan Rygbi'r Byd yn Ffrainc.

Mae honiadau bod Llinos Griffin-Williams wedi dweud wrtho nad yw ei Gymraeg yn ddigon safonol i ddarlledu.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r BBC yn deall bod Llinos Griffin-Williams wedi ymosod yn eiriol ar gyn-chwaraewr rygbi Cymru, Mike Phillips

Yn y llythyr gan ei chyfreithwyr, mae Llinos Griffin-Williams yn dweud ei bod yn "gwadu'r honiadau yna'n llwyr" ac mae hefyd yn gwadu iddi "ymddwyn yn anaddas neu mewn unrhyw ffordd fyddai'n cyfiawnhau canfyddiad o gamymddwyn difrifol".

Mae hi'n honni na chafodd gyfle i "gyflwyno tystiolaeth gan lygad-dystion oedd yn bresennol ac sydd yn gwadu yr honiadau yn fy erbyn".

Ar ddiwedd y datganiad, mae honiad bod "dau aelod benywaidd o dîm rheoli S4C" wedi gwneud cwynion yn erbyn Rhodri Williams, ac mae'n galw ar Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU, sy'n gyfrifol am apwyntio cadeirydd S4C, i ymchwilio'n annibynnol i'r cwynion rheiny.

Gofynnwyd i Rhodri Williams am ymateb, ac fe gyfeiriodd e at ddatganiad gan S4C ar ran aelodau anweithredol bwrdd y sianel.

Ffynhonnell y llun, Mabon Llyr
Disgrifiad o’r llun,

Rhodri Williams yw cadeirydd S4C ers 2020

Yn ôl y datganiad hwnnw, fe ddiswyddwyd Llinos Griffin-Williams, "heb rybudd am sawl achos o gamymddwyn difrifol, yn dilyn derbyn honiadau am ei hymddygiad mewn digwyddiadau yn dilyn gêm Cwpan Rygbi'r Byd rhwng Cymru a Georgia" ar 7 Hydref.

"Yn seiliedig ar y dystiolaeth a gyflwynwyd, a chyngor cyfreithiol manwl, penderfynodd Cadeirydd Bwrdd S4C i ddiswyddo'r unigolyn.

"Cafodd y penderfyniad ei gadarnhau wedyn gan aelodau anweithredol y Bwrdd".

Dywedodd Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon llywodraeth y DU bod hyn oll yn "fater i S4C, sydd yn annibynnol o'r llywodraeth" ac "na allan nhw roi sylw ar achosion unigol."

Pynciau cysylltiedig