Gwynedd: Ffermwr wedi marw ar ôl cael ei daflu o'i dractor
- Cyhoeddwyd
Bu farw ffermwr a oedd yn gweithio ar ochr bryn pan gafodd ei daflu oddi ar dractor ac yna cael ei wasgu o'i dannodd.
Clywodd cwest fod Richard Norton Lewis, 50, wedi bod yn gwasgaru calch ar fferm cymydog ger Tywyn yng Ngwynedd ym mis Ebrill 2022.
Clywodd rheithgor yn Llys y Crwner yng Nghaernarfon fod teiar ar y trelar llawn calch wedi chwalu gan achosi i'r tractor golli rheolaeth.
Roedd modd clywed sŵn y teiar yn byrstio bron i filltir i ffwrdd, clywodd y rheithgor.
Dywedodd perchennog y fferm, Elfed Evans, iddo weld ei ffrind yn cael ei daflu o'r tractor ac yn gorwedd yn llonydd.
"Daeth y tractor draw ac fe gafodd ei daflu - cafodd ei daflu allan o'r tractor," meddai Mr Evans wrth y cwest.
"Fe laniodd ar y llawr a doeddwn ddim yn medru ei weld yn symud."
Dywedodd Mr Evans, oedd yn amlwg dan deimlad wrth roi tystiolaeth, bod ei ffrind wedi cael ei daflu'n "eithaf pell" o'r tractor, a oedd wedi parhau i ddisgyn i lawr ochr serth y bryn ar fferm Bodilan Fawr, Llanfihangel y Pennant.
"Daeth y tractor i lawr a glanio arno. Glaniodd to'r tractor reit ar ei ben.
"Roeddwn yn gallu gweld nad oedd yn symud."
'Gwneud popeth i ddarparu cymorth'
Dywedodd Mr Evans nad oedd signal ffôn symudol yn yr ardal, a rhuthrodd yn ôl i'r ffermdy ar feic cwad i chwilio am help.
Daeth ffermwyr arall i helpu, ac anfonwyd criwiau ambiwlans ac ambiwlans awyr.
Dywedodd Crwner Cynorthwyol Gogledd Orllewin Cymru, Sarah Riley, wrth Mr Evans ei bod yn amlwg ei fod wedi gwneud popeth o fewn ei allu i helpu i Mr Lewis.
Fodd bynnag, dywedwyd wrth y cwest fod Mr Lewis wedi dioddef "anafiadau gwasgu anferth" i'w ben a rhan uchaf ei gorff.
Cafodd ymchwiliad gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) ei lansio i'r farwolaeth, a dywedwyd wrth y cwest fod Mr Lewis yn ffermwr uchel ei barch gyda 30 mlynedd o brofiad gydag offer amaethyddol.
Dywedodd yr ymchwilydd, Robert Price, ei bod yn amlwg bod y ffermwr yn ymfalchïo yn ei waith, ac yn cadw ei beiriannau "mewn cyflwr da".
Canfu adroddiad HSE i'r digwyddiad fod y tractor wedi troi drosodd oherwydd bod y teiar ar y trelar wedi hollti oddi wrth ymyl yr olwyn.
Fodd bynnag, dywedwyd wrth y gwrandawiad nad oedd yr ymchwiliad yn gallu dweud pam fod y teiar wedi byrstio.
Gofynnodd y crwner i'r rheithgor ystyried a oedd marwolaeth Mr Lewis o ganlyniad i ddamwain neu anffawd.
Daethant i'r casgliad mai damweiniol oedd ei farwolaeth.