Staff ambiwlans 'yn eu dagrau' dros symud canolfan 999

  • Cyhoeddwyd
Canolfan alwadau
Disgrifiad o’r llun,

Mae tîm y Ganolfan Gyswllt Clinigol yn cynnwys Trinwyr Galwadau 999

Mae gweithwyr yn y Gwasanaeth Ambiwlans wedi datgan pryder dros gynlluniau i symud canolfan alwadau yn y gogledd dros 25 milltir i'r dwyrain.

Yn ôl staff, byddai cynlluniau'r gwasanaeth i symud y Ganolfan Gyswllt Glinigol o Lanfairfechan yn Sir Conwy i Lanelwy yn Sir Ddinbych yn creu trafferthion i'r mwyafrif o'r 100 sy'n gweithio yno, gyda nifer helaeth ohonynt yn byw yng Ngwynedd a Môn.

Mae staff y ganolfan yn delio â galwadau brys 999 o ar draws y gogledd, gyda rhai hefyd yn trefnu trafnidiaeth i gleifion allanol ysbytai'r rhanbarth.

Wrth symud o Ysbyty Bryn y Neuadd i Dŷ Elwy ar Ystâd Ddiwydiannol Llanelwy, byddai'n golygu taith ychwanegol o hyd at 35 munud bob ffordd i'r rheiny sy'n byw yn y gorllewin.

Hefyd ymhlith y pryderon yw'r effaith bosib ar y ddarpariaeth Gymraeg a'r gallu i gadw staff.

Yn ôl Gwasanaeth Ambiwlans Cymru byddai'r gost o adnewyddu adeilad Llanfairfechan i safon dderbyniol yn "aneconomaidd", ac maen nhw wedi ystyried adeilad arall yng Nghyffordd Llandudno.

'Wedi gweld staff yn eu dagrau'

Dywedodd un aelod o staff wrth Cymru Fyw y cawson nhw wybod yn swyddogol am y cynlluniau ym mis Medi.

Ychwanegodd y gweithiwr, a oedd yn dymuno aros yn ddienw: "Mae'n le anodd i weithio ar y funud gan fod pawb yn trafod symud i Lanelwy.

"Dwi 'di gweld staff yn crio ac yn dweud fedran nhw ddim cario 'mlaen i weithio i'r gwasanaeth.

"Mae'n mynd i effeithio pobl yn ofnadwy ac yn drist i'w weld.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae cynlluniau i symud y Ganolfan Gyswllt Glinigol o Lanfairfechan i Lanelwy - taith o dros 25 milltir

"Mae'n wir i ddweud fod yr adeilad [yn Llanfairfechan] wedi gweld dyddiau gwell - mae'r to yn gollwng, dwi'n deall pam fod rhaid symud o'na.

"Ond mae symud i Lanelwy am achosi problemau mawr gan fod y rhan fwyaf o staff yn byw ym Môn a Gwynedd - [dim] ond tri neu bedwar sy'n byw yn Sir Ddinbych.

"'Dan ni wedi cynnig llefydd arall iddyn nhw fel adeilad Llywodraeth Cymru yng Nghyffordd Llandudno ond maen nhw'n dweud mai Tŷ Elwy ydy'r unig le allwn symud.

"Fydd o'n awr ychwanegol i mi yn y car bob dydd... dwi'n poeni fyddwn ni'n colli staff fydd ddim isio symud i Tŷ Elwy, yn enwedig y rhai ar gyflogau is.

"Fydd o'n werth iddyn nhw drafeilio? Fydd hi'n anoddach denu siaradwyr Cymraeg gan fod llai o siaradwyr Cymraeg yn y gogledd ddwyrain.

"Hefyd mae posib dal y trên i Lanfairfechan. Does dim gorsaf yn agos i Lanelwy."

Disgrifiad o’r llun,

Wrth symud o Ysbyty Bryn y Neuadd i ganolfan newydd yn Llanelwy, byddai'n golygu taith ychwanegol o 25 milltir bob ffordd

Dywedodd un arall fod staff hefyd yn poeni am drefniadau gofal plant.

"Bydd cymaint o gleifion oedrannus yng nghefn gwlad Cymru yn colli'r gallu i gyfathrebu â'r gwasanaeth 999 yn eu mamiaith ac mae'n drueni."

Ychwanegodd bydd hefyd oblygiadau ar ofal eu plant gan nad oes yr un darparwr gofal plant yng Ngwynedd yn agor cyn 7:30, ond i gyrraedd Llanelwy mewn pryd i ddechrau eu shifft bydd llawer yn gorfod gadael eu cartrefi cyn 07:00.

"Bydd hyn yn cael effaith sylweddol ar drefniadau gofal plant ar gyfer y teuluoedd sy'n gweithio i'r gwasanaeth ambiwlans a gallai yn y pen draw arwain at y penderfyniad i lawer i adael y gwasanaeth a dilyn gyrfa yn nes at adref."

'Adleoli swyddi i'r dwyrain'

Deallir fod 66% o'r gweithlu presennol yn Llanfairfechan yn siarad neu'n deall Cymraeg. O'r siaradwyr Cymraeg rheiny mae bron i dri chwarter yn byw yng Ngwynedd a Môn.

Mae AS Môn, Rhun ap Iorwerth yn cydnabod yr angen i adael Bryn y Neuadd, ond yn annog y Gwasanaeth Ambiwlans i ystyried adeilad Llywodraeth Cymru yng Nghyffordd Llandudno, "neu leoliad arall mwy hyfyw".

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Lywodraeth Cymru swyddfa yng Nghyffordd Llandudno

"Mae'r adeilad yng Nghyffordd Llandudno yn cyflwyno nifer o fanteision, gan gynnwys mynediad digonol i drafnidiaeth gyhoeddus, dim ond taith gymudo 10 munud ychwanegol i nifer o staff, a hyd eithaf ein gwybodaeth, digon o le o fewn yr adeilad i ddarparu ar gyfer gofynion y Ganolfan Gyswllt Clinigol," meddai mewn llythyr i'r Gwasanaeth Ambiwlans.

Dywedodd wrth Cymru Fyw ei fod yn "bryderus iawn" am y bwriad.

"Mae hyn nid yn unig oherwydd yr effaith uniongyrchol y bydd yn gael ar fy etholwyr o ran pellter cymudo ychwanegol, ynghyd â'r costau sy'n gysylltiedig â gorfod teithio ymhellach.

"Mae hefyd yn codi cwestiynau am yr effaith gysylltiedig ar nifer yr aelodau staff dwyieithog, pe bai'r adleoli'n mynd yn ei flaen."

Ychwanegodd AS Arfon, Sian Gwenllian, fod y cynlluniau'n "rhan o duedd i adleoli swyddi sy'n ymwneud â'r gwasanaethau iechyd tua'r dwyrain".

Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai o gynrychiolwyr Môn a Gwynedd, ble mae nifer o'r staff yn byw, wedi ysgrifennu at Wasanaeth Ambiwlans Cymru gyda'u pryderon

"Mae swyddi yn y sector cyhoeddus yn hanfodol bwysig i economi gogledd orllewin Cymru ac mae'n rhaid gwrthwynebu colli'r swyddi hynny.

"Mae'n teimlo fel petai'r holl fater o adleoli wedi'i gymryd heb ystyriaeth briodol o'r effaith economaidd hirdymor ac i'r effaith y byddai symudiad o'r fath yn ei gael ar y gwasanaeth ddwyieithog sydd ar gael ar hyn o bryd."

Dywedodd Mabon ap Gwynfor AS y byddai'n cael "effaith andwyol sylweddol ar staff ar ben isaf y raddfa gyflog, a fydd yn wynebu baich ariannol ychwanegol i deithio ar adeg pan na all llawer fforddio amsugno'r fath ergyd ar incwm eu haelwyd".

Mae Aelod Seneddol Môn, Virginia Crosbie, hefyd wedi ysgrifennu at Wasanaeth Ambiwlans Cymru i ddatgan ei phryderon gan fod 20 aelod o'r tîm yn byw ar yr ynys.

"Bydd y symudiad yn ychwanegu bron i 25 milltir at eu taith i'r gwaith a chostau ychwanegol mewn tanwydd," meddai wrth Cymru Fyw.

Disgrifiad o’r llun,

Virginia Crosbie: "Mae gennyf bryderon gwirioneddol bydd y symud hwn yn cael effaith andwyol ar fy etholwyr"

"Ofnaf hefyd fod yr effaith ar fy etholwyr Cymraeg eu hiaith yn cael ei hanwybyddu. Mae dros 50% o bobl Ynys Môn yn siarad Cymraeg ac mae'n iaith gyntaf i lawer o'm hetholwyr hŷn a bregus.

"Mae lle mae'r ganolfan yn symud i â chanran is o siaradwyr Cymraeg a llai sy'n gallu siarad yr iaith yn debygol o wneud cais i weithio yno dros amser.

"Mae gennyf bryderon gwirioneddol bydd y symud hwn yn cael effaith andwyol ar fy etholwyr sy'n gwneud galwadau 999, os nad yw'r rhai sy'n ateb yn siaradwyr Cymraeg brodorol."

'Cyfleusterau modern sy'n addas i'r diben'

Mewn ymateb dywedodd Lee Brooks, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, eu bod yn "chwilio'n barhaus am gyfleoedd i foderneiddio eu hystâd a darparu'r cyfleusterau gorau posibl i staff a chleifion".

Ychwanegodd mai ond dros dro oedd bwriad defnyddio'r adeilad presennol yn Llanfairfechan pan symudon nhw yng nghanol y 2000au.

"Bron i ddau ddegawd yn ddiweddarach, rydym wedi mynd y tu hwnt i allu'r adeilad ac mae'r gost i ddod â'r adeilad i fyny i safon dderbyniol yn aneconomaidd.

"Daw hyn ar adeg o gyfyngiadau ariannol sylweddol a chyfarwyddyd clir gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y sector cyhoeddus yn defnyddio ei ystâd i'r eithaf ac yn rhesymoli lle nad oes ei angen."

Ffynhonnell y llun, Google Streetview
Disgrifiad o’r llun,

Tŷ Elwy, ar Stad Ddiwydiannol Llanelwy, yw pencadlys Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn y gogledd

Ychwanegodd bod sawl opsiwn wedi eu hystyried gan y bwrdd prosiect.

"Rydym yn parhau i weithio drwy sut y bydd cyfuno ein hystâd yng ngogledd Cymru yn effeithio ar ein pobl, a sut y gallwn redeg ein gwasanaethau orau o ddau safle (Bangor a Llanelwy), yn hytrach na thri.

"Rydym yn gwybod yr effaith mae amgylchedd gwaith gwael yn ei gael ar recriwtio a chadw staff, a dyna pam mae pwysigrwydd sicrhau adeilad ar gyfer ein cydweithwyr ym Mryn Tirion sy'n diwallu anghenion y gwasanaeth ac yn cynnig cyfleusterau modern sy'n addas i'r diben."