Streic ambiwlans: 'Mae pethau'n gorfod newid'
- Cyhoeddwyd
"Mae'r pressure yn ormod. Dwi'n meddwl bod pethau'n gorfod newid."
Dyna eiriau'r uwch barafeddyg, Andrew Prosser, wrth iddo sefyll ar linell biced tu allan i orsaf y gwasanaeth ambiwlans yng Nghaerfyrddin.
Mae Mr Prosser a channoedd o weithwyr eraill y gwasanaeth ar draws Cymru sy'n perthyn i undeb y GMB ar streic yn sgil anghydfod ynghylch amodau gwaith a chyflogau.
Dywedodd fod treulio shifftiau cyfan yn ei swydd flaenorol fel parafeddyg gyda chlaf yng nghefn ambiwlans am nad oedd ysbyty mewn sefyllfa i'w derbyn, wedi amharu ar ei iechyd meddwl.
"Mae newid i fod yn uwch barafeddyg wedi safio fy mental health," meddai.
"[Do'n i] jyst ddim yn gallu eistedd tu fas a 'neud dim o'r gwaith o'n i mo'yn neud a nes i signo lan i neud."
Dywedodd ei fod wedi profi "wythnosau o ddechrau shifft, cerdded draw i'r ysbyty, aros gyda chleifion tu fas yn yr ambiwlans trwy'r dydd a wedyn jyst cerdded yn ôl".
"Jyst wythnosau, misoedd o wneud yr un peth," meddai.
Mae undebau'n pwyso am godiad cyflog uwch na chwyddiant - sy'n 10% ar hyn o bryd - yn hytrach na'r hyn y mae Llywodraeth Cymru'n ei gynnig, sef rhwng 4% a 5.5%.
"Dwi ddim yn meddwl bod ni'n ca'l cyflog sydd ar y lefel o'n responsibility," meddai Mr Prosser, gan bwysleisio nad dyna'r "unig beth 'dan ni'n trio newid heddi".
Gyda rhai'n pryderu bod staff yn cael llond bol ac yn gadael y sector, mae'n credu y byddai codi cyflogau gweithwyr craidd fel staff ambiwlans a nyrsys yn arbed cost talu am staff asiantaeth yn y pendraw.
Dywedodd ei fod wedi colli cwsg dros y penderfyniad i streicio, ac ynghylch yr ansicrwydd o "beth sy'n mynd i ddigwydd, sut mae'r dydd yn mynd i fynd".
Ond mae'n dweud ei fod yn barod i streicio eto "os fydd rhaid".
Mae'r undebau wedi pwysleisio bod aelodau'n barod i ymateb i'r galwadau 999 mwyaf difrifol ar ddiwrnodau'r gweithredu diwydiannol.
Fe ymatebodd holl aelodau'r orsaf ym Mhentwyn, yng Nghaerdydd i alwadau brys a gyrhaeddodd o fewn awr gyntaf y streic.
Cyhoeddodd cynrychiolydd y GMB yn Ne a Gorllewin Cymru, Nathan Holman fideo ar ei ben ei hun tu allan i'r orsaf cyn 08:00 "sy'n dangos ein bod yn dal yn ymateb i alw'r cyhoedd".
Er hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi rhybuddio bod disgwyl effaith "sylweddol" ar y gwasanaeth ambiwlans tra bod gweithwyr ar streic.
Effaith ar feddygfeydd
Mae meddygfeydd hefyd wedi rhybuddio eu bod hwythau dan bwysau fwy na'r arfer oherwydd y streic.
Dywed Canolfan Feddygol Pont Newydd yn nhref Y Porth yn Rhondda Cynon Taf eu bod "wedi cael cyngor i flaenoriaethu apwyntiadau brys heddiw".
Ychwanegodd eu bod "eisoes dan bwysau eithriadol felly fe allwch chi orfod aros yn hirach na'r arfer wrth ddod i'r feddygfa".
Mewn neges debyg dywedodd meddygfa Pontcae ym Merthyr Tudful eu bod "yn ymddiheuro am y rhwystredigaeth am anghyfleustra y gallai hyn achosi ond gobeithiwn y byddwch chi'n deall ein hangen i flaenoriaethu ein cleifion mwyaf ddifrifol wael".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2022