Hiliaeth yn yr ysgol: 'Roedd wastad rhywbeth'

  • Cyhoeddwyd
Bowen
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yn rhaid i Bowen ddelio â hiliaeth bob dydd yn yr ysgol

Roedd mynd i'r ysgol yn Abertawe yn "gyfnod anodd" i Bowen, 17, o ran hiliaeth.

Ar un adeg, dechreuodd plant ifanca'r ysgol alw enwau arno a thaflu bwyd at ei wallt.

"Dwi'n credu o safbwynt yr ysgolion, o'n nhw yn delio gyda fe fel oedden nhw'n gallu ond dwi'n credu os fyswn i'n delio gyda fe bydden i'n delio gyda fe mewn ffordd wahanol iawn... yn fwy llym."

Mae'n rhaid i ysgolion uwchradd ymateb yn well i hiliaeth, yn ôl Comisiynydd Plant Cymru.

Mae Bowen yn dweud i'w brofiadau ei wneud yn berson cryfach, ond nad oes digon o addysg am iaith sy'n brifo ac yn hiliol.

Byddai'n disgwyl rhyw fath o hiliaeth bob dydd, meddai. "Roedd wastad rhywbeth. Dim rhywbeth mawr... pethau bach.

"Pobl yn dangos anwybodaeth - os oedden nhw'n ei feddwl e neu beidio."

Beth ydy profiadau plant?

Yn ôl adroddiad newydd gan Gomisiynydd Plant Cymru, rhaid cynnig mwy o hyfforddiant a chefnogaeth i holl ysgolion uwchradd Cymru ar ddeall hiliaeth ac ymateb i ddigwyddiadau hiliol.

Mae'n dweud bod sylwadau hiliol yn digwydd yn gyson mewn ysgolion, a'u bod yn cael eu "normaleiddio" gan ddisgyblion.

Fel rhan o'r adroddiad, mae rhai pobl ifanc wedi dweud bod merched ifanc Mwslimaidd sy'n gwisgo penwisg yn cael eu cyhuddo o guddio bom oddi tano. Mae adroddiad arall o rywun yn tynnu hijab oddi ar ferch a'i gadael yn llefain.

Dywedodd plant eu bod yn teimlo nad yw hiliaeth yn cael ei gymryd o ddifri, ac eraill eu bod yn ofni ymateb pe tawn nhw'n gwneud cwyn.

Hefyd mae'r adroddiad yn dweud bod anghysondeb yn y ffordd mae ysgolion yn diffinio, cofnodi ac ymateb i hiliaeth, a bod diffyg hyder ymysg athrawon wrth ymdrin â hiliaeth.

Disgrifiad o’r llun,

Rocio Cifuentes yw Comisiynydd Plant Cymru

Dywedodd y Comisiynydd Plant, Rocio Cifuentes: "Mae angen newid diwylliant i wirioneddol gefnogi ysgolion i ymateb yn fwy effeithiol, ac yn fwy pwysig i helpu pobl ifanc a phlant i deimlo'n fwy diogel ac yn hyderus y bydd yr ysgol yn cymryd hiliaeth o ddifri ac y bydd rhywbeth yn cael ei wneud am y peth."

Mae hi'n mynnu bod rhaid i hyfforddiant staff a llywodraethwyr fod yn orfodol er mwyn gweld cynnydd ar frys.

"Mae gwir angen ymateb cynhwysfawr i ddelio â hyn, yn hytrach na beth sydd gyda ni ar hyn o bryd, sef pocedi o arfer gwych tra bod ysgolion eraill wir yn straffaglu."

'Caniatáu a dilysu' hiliaeth

Clywodd yr adroddiad gan ddisgyblion oedd yn dweud nad oedden nhw'n cael digon o gyfleoedd i ddysgu am amrywiaeth crefyddol. A dywedodd eraill mai dim ond adeg Mis Hanes Pobl Ddu mae'n nhw'n clywed am amrywiaeth hil.

Cafodd y llyfr testun TGAU Of Mice And Men sy'n cynnwys geiriau hiliol, hefyd ei drafod gan athrawon.

Mae rhai ysgolion wedi tynnu'r testun o'u maes llafur, gan gynnwys Ysgol Gymraeg Glantaf ac Ysgol Llanwern yng Nghasnewydd.

Dywedodd pennaeth Ysgol Glantaf, Mathew Evans: "Pan wnaeth ein disgyblion ni a disgyblion Ysgol Llanwern ddod at ei gilydd i drafod y nofel, roedd y farn yn eithriadol o gryf bod yr eirfa yn y llyfr yna, yr agweddau yn y llyfr yna, y model yna o bobl dduon fel dioddefwyr yn unig yn caniatáu, yn dilysu syniadau hiliol yn y dosbarth."

Disgrifiad o’r llun,

Mathew Evans, pennaeth Ysgol Gymraeg Glantaf

Wrth ymateb i unrhyw feirniadaeth o'r penderfyniad, dywedodd: "Nid sensoriaeth yw dewis yn addas ar gyfer y disgyblion.

"Efallai bod sicrhau bod lleisiau eang o amrywiaeth awduron - nid dim ond awduron sy'n digwydd bod yn ddynion, sy'n digwydd bod yn wyn a sy'n digwydd bod yn ganol oed. Ond bod o'n lleisiau cyfoes - a Chymreig a dweud y gwir - yn dangos cyd-destun i blant.

"A fyswn i'n dadlau bod y dewis yna yn gyfyngedig iawn, iawn, iawn i ysgolion ac athrawon yng Nghymru."

Hiliaeth yn 'annerbyniol'

Eleni, cyflwynodd Cymru hanes pobl ddu a phobl o gefndir ethnig lleiafrifol fel rhan hanfodol o'r cwricwlwm - y wlad gyntaf yn y DU i wneud hynny.

Tra'n canmol y cam hwnnw, dywedodd y Comisiynydd Plant bod rhaid i'r llywodraeth roi mwy o bwys ar brofiadau pobl ifanc yn ein hysgolion.

Wrth ymateb i'r adroddiad, dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth bod hiliaeth yn "annerbyniol" yn ein hysgolion.

"Tra bod yr adroddiad hwn yn anodd i'w ddarllen, mae'n hanfodol ein bod yn gwrando ar blant a phobl ifanc ac yn ymateb yn effeithiol i'r materion sy'n eu hwynebu. Fe fyddwn yn ystyried yr argymhellion yn ddwys."

Pynciau Cysylltiedig