Ysgolion Cymru'n 'anwybyddu neu'n gwadu hiliaeth' medd elusen

  • Cyhoeddwyd
Duke Al
Disgrifiad o’r llun,

Dywed y bardd Duke Al iddo sylweddoli faint o hiliaeth brofodd ef yn yr ysgol wrth edrych yn ôl fel oedolyn

Mae ysgolion yng Nghymru yn "anwybyddu neu'n gwadu hiliaeth" yn ôl corff cydraddoldeb hiliol.

Mae Race Equality First yn dweud bod cynnydd cyson yn nifer y bobl sy'n cysylltu â nhw i gofnodi achosion, ond bod ysgolion "prin yn gweithredu".

Wrth edrych yn ôl ar ei blentyndod mae Duke Al o Fro Morgannwg yn deall faint o hiliaeth yr oedd yn ei wynebu yn yr ysgol.

"Dim ond wrth i fi fynd yn hŷn sylweddolais fy mod wedi wynebu cryn dipyn o... hiliaeth," meddai.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud ei bod wedi ymrwymo i adeiladu Cymru sy'n wrth-hiliol erbyn 2030, ac mae hyn yn cynnwys y system addysg.

Sylwadau sarhaus

Bardd sy'n rapio o Ddinas Powys yw Duke Al, 28 oed.

Tra'n yr ysgol dywedodd bod ganddo gylch da o ffrindiau ond nad oedd nifer o bobl eraill o gefndiroedd ethnig yno.

Dywedodd ei fod wedi cael nifer o sylwadau sarhaus ac annerbyniol, yn enwedig wrth wylio neu gymryd rhan mewn chwaraeon.

Ffynhonnell y llun, Tyrone Lewis @processproductions
Disgrifiad o’r llun,

Mae Duke Al am i'w waith addysgu a helpu eraill

Ond ychwanegodd ei fod yn gyndyn o gwyno am y peth.

Dywedodd mai llofruddiaeth George Floyd a thwf mudiad Black Lives Matter oedd y sbardun iddo ystyried ei brofiadau.

Fel artist mae am i'w waith "fod yn berthnasol i'r rhai sy'n mynd trwy pethau fel hiliaeth neu broblemau iechyd meddwl, ac yna ceisio addysgu'r rhai sydd ddim yn deall yn iawn".

'Hiliaeth sefydliadol'

Bellach mae Race Equality First yn dweud bod cynnydd cyson wedi bod yn nifer yr achosion o fwlio hiliol sy'n cael eu nodi.

Rhwng Mawrth 2021 ac Ebrill 2022 bu'n rhaid i'r elusen ddelio â 21 o achosion mewn ysgolion, colegau, a phrifysgolion, gyda mwy o ymholiadau heb eu cofnodi yn y ffigurau swyddogol.

Yn ôl Aliya Mohammed, prif weithredwr y corff, nid digwyddiadau un tro oedd rhain ond enghreifftiau o fwlio hiliol rheolaidd yn amrywio o drais corfforol a phlant yn galw enwau i agweddau sarhaus gan athrawon.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r achosion sy'n cael eu hadrodd yn rhan o batrwm o fwlio hiliol rheolaidd, medd Aliya Mohammed

"Yn aml ry'n ni'n gweld hiliaeth sefydliadol wedi'i gwreiddio yn niwylliant ysgol, ry'n ni'n gweld anwybodaeth a'r methiant i weld bod 'na hiliaeth yn digwydd," meddai.

Ychwanegodd nad yw ysgolion yn hoffi cofnodi achosion o hiliaeth gan eu bod yn poeni y gallai effeithio ar fesurau perfformiad.

"Nid mater o ddarparu hyfforddiant gwrth-hiliaeth i athrawon yn unig yw'r ffordd ymlaen mewn ysgolion bellach, mae'n ymwneud ag atebolrwydd... mae angen i athrawon a phenaethiaid ysgolion sicrhau bod myfyrwyr yn atebol," ychwanegodd.

Daw ei sylwadau ar ôl i Raheem Bailey, 11, golli bys ar ôl rhedeg wrth fwlis. Dywedodd ei fam eu bod nhw'n ei gam-drin yn hiliol ac yn gorfforol.

'Sylwadau am ba mor dywyll oedd fy nghroen'

Mae Nirushan Sudarsan o Gaerdydd yn cofio wynebu gwahaniaethu hiliol yn ystod ei gyfnod yn yr ysgol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae angen sicrhau bod modd i ddisgyblion adrodd achosion o hiliaeth gyda hyder, medd Nirushan Sudarsan

Dywedodd y myfyriwr 22 oed nad oedd disgyblion ac athrawon yn dysgu sut i ynganu ei enw yn iawn, yn ogystal â'i stereoteipio.

"Roedd 'na sylwadau ynglŷn â pha mor dywyll oedd fy nghroen... fe ges i sylwadau fel 'na drwy'r ysgol.

"Yn hŷn, fe ddeallais i sut mae hiliaeth yn effeithio arna i a'n hunaniaeth," meddai.

Yn astudio'r gyfraith a gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, dywedodd Nirushan fod angen mwy o hyfforddiant ar athrawon, a systemau cadarn mewn lle i alluogi disgyblion i gofnodi digwyddiadau gyda hyder.

Ffynhonnell y llun, Natalie Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Natalie Jones yn dweud bod hiliaeth mewn ysgolion yn effeithio'n fawr ar les plant

Yn ôl Natalie Jones, sydd o gefndir Jamacaidd ac sy'n athrawes mewn ysgol yn Sir Benfro, mae angen i bobl ddeffro a chydnabod bod hiliaeth yn broblem mewn ysgolion.

"Y ffaith yw ma'r rhan fwyaf o bobl sy'n gweithio yn addysg yn bobl wyn, dosbarth canol ac felly dydyn nhw ddim yn gallu weithiau, neu ddim yn ystyried beth ydy hi i fyw fel rhywun du yng Nghymru neu ym Mhrydain

"...ma' lliw croen ti weithiau yn effeithio sut ma' pobl yn dy drin di a 'dan ni isio i bobl mewn ysgolion edrych ar hyn ac edrych arni fel peth serious achos ma' hi'n issue safeguarding.

"Mae'n cael effaith ar lles plant du a brown," dywedodd ar Dros Frecwast.

Disgwyl ymchwiliadau llawn

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud ei bod yn disgwyl bod ysgolion yn ymchwilio'n llawn i honiadau a digwyddiadau o hiliaeth ac aflonyddu hiliol gyda chamau priodol yn cael eu cymryd.

Dywedodd llefarydd y bydd y cwricwlwm newydd yn cynnwys addysg gorfodol am hanes a phrofiadau pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.

Hefyd, bydd yna gymhellion ariannol o eleni ymlaen i gynyddu amrywiaeth y gweithlu addysg ar draws Cymru.

Mae Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol eisoes wedi ei lansio gan Lywodraeth Cymru. Mi fydd yn ceisio mynd i'r afael â hiliaeth mewn chwe maes o fywyd bob dydd gyda'r bwriad o sicrhau bod Cymru'n wlad wrth-hiliol erbyn 2030.

Pynciau cysylltiedig