Ariannu myfyrwyr tu allan i Gymru yn 'hwyluso ecsodus' pobl ifanc
- Cyhoeddwyd
Mae yna alw am beidio â rhoi cefnogaeth ariannol i fyfyrwyr astudio y tu allan i Gymru, gan fudiad sy'n pryderu bod y polisi'n "hwyluso ecsodus gormod o'n pobl ifanc academaidd".
Mewn llythyr at Weinidog y Gymraeg ac Addysg mae Dyfodol i'r Iaith yn ymateb i ymchwil diweddar sy'n awgrymu y bydd y patrwm yna'n parhau, gan ei ddisgrifio'n "duedd bryderus".
"Bydd hyn yn gynyddol niweidiol i Gymru a'r Gymraeg," dywedodd prif weithredwr y mudiad, Dylan Bryn Jones.
Dywedodd un sy'n astudio yn Lloegr y byddai tynnu cefnogaeth ariannol yn "bolisi eitha' cul", tra bod y llywodraeth yn tynnu sylw at gynllun Seren sy'n "hyrwyddo darpariaeth addysg uwch cyfrwng Cymraeg".
Nododd arolwg diweddar ar ran Comisiynydd y Gymraeg mai dim ond 62% o holl fyfyrwyr Cymru, boed yn ddwyieithog neu'n uniaith, sy'n aros yn eu gwlad eu hunain am addysg prifysgol ar hyn o bryd.
Mae'r ganran yn sylweddol uwch ymhlith myfyrwyr o'r Alban a Lloegr, sef 95%.
Awgrymodd yr arolwg hefyd mai ond tua 40% o ddisgyblion a myfyrwyr Cymraeg eu hiaith, sy'n 16 oed neu'n hŷn, oedd yn bwriadu aros i astudio yng Nghymru.
'Llai tebygol o ddychwelyd'
Ymhlith sawl pryder arall, medd Dylan Bryn Roberts, yw'r ffaith bod "patrymau'r gorffennol yn dangos tebygolrwydd uwch y bydd myfyrwyr sy'n astudio y tu allan i Gymru yn aros yno ar ôl graddio".
Fe fyddai hynny, meddai, yn "amddifadu Cymru o gyfran o siaradwyr Cymraeg ar yr union adeg lle gwelwyd dirywiad yn y nifer a'r canran sydd yn gallu siarad yr iaith".
Fe fyddai hefyd yn amharu ar ymdrechion i recriwtio'r "gweithlu sylweddol o athrawon dwyieithog i addysgu cenedlaethau'r dyfodol trwy gyfrwng y Gymraeg" os am sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
"Pan mae myfyrwyr yn hyfforddi i fod yn athrawon y tu allan i Gymru, 'chân nhw ddim profiad ymarfer dysgu trwy'r Gymraeg, dim gwybodaeth am Gwricwlwm i Gymru na chyfle i barhau i ddefnyddio eu Cymraeg," meddai.
"Mae'r cyfan yn golygu y byddant yn llai tebygol fyth o ddychwelyd i fyd addysg yng Nghymru lle mae angen dybryd amdanynt."
'Polisi cul'
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast ddydd Mawrth, dywedodd Megan Bryer sy'n astudio ym Mhrifysgol Rhydychen fod "tynnu arian wrth fyfyrwyr sydd eisiau gwneud y penderfyniad yna [i fynychu prifysgol tu allan i Gymru] yn bolisi eitha' cul".
Dywedodd y byddai'n golygu bod "myfyrwyr yn mynd i gael eu dal yn ôl, myfyrwyr talentog iawn yn yr ysgol sydd wedi bod yn uchelgeisiol iawn, sydd wedi cael graddau da iawn, sydd eisiau mynd i'r prifysgolion gorau yn y wlad, a fi'n credu bod y polisi yma yn mynd i'w dal yn ôl rhag gwneud hynny".
Aeth ymlaen i sôn mai ond safle 25 yw Prifysgol Caerdydd ar restr ddethol prifysgolion y DU: "Fi just ddim yn meddwl bod hwnna yn syniad realistig i gael disgyblion sydd eisiau ehangu eu gorwelion i gyd i aros yng Nghymru."
Dywedodd Megan ei bod yn awyddus i ddychwelyd yn ôl i Gymru yn y dyfodol ac mai'r "peth gorau i wneud yw rhoi mwy a mwy o ffocws ar ddenu pobl yn ôl, pethe fel y cynllun cyswllt gyda'r Coleg Cymraeg yn hytrach na chosbi pobl yn y lle cyntaf".
Galw am dro pedol
Mae Dyfodol i'r Iaith yn dadlau bod disgyblion ysgol yn cael eu hannog i gael eu haddysg y tu hwnt i Gymru oherwydd y gefnogaeth ariannol sydd ar gael.
Ffactor arall, meddai, yw'r ffordd y "mae cynllun Seren y llywodraeth yn annog cyfran o'n disgyblion gorau i anelu at astudio ym Mhrifysgolion Grŵp Russell, a dim ond un ohonynt sydd yng Nghymru".
Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru fod "Academi Seren yn gweithio'n agos gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a phrifysgolion Cymru i gynnig darpariaeth cyfrwng Cymraeg ac i hyrwyddo darpariaeth addysg uwch cyfrwng Cymraeg".
Ychwanegodd llefarydd: "Mae rhaglen Cadw Cyswllt y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn helpu myfyrwyr i ddod o hyd i siaradwyr Cymraeg eraill sy'n astudio y tu allan i Gymru, ac yn eu gwneud yn ymwybodol o Gymru a'r Gymraeg."
Dywedodd Dyfodol i'r Iaith eu bod yn "cefnogi hawl pob unigolyn i ddewis astudio ym mhle bynnag ac ym mha wlad bynnag y dymunant".
Ond dywedodd y grwp bod "graddfa'r allfudiad yn cyrraedd pwynt critigol", ac felly bod "angen ystyried doethineb polisi sy'n hwyluso patrwm o'r fath".
Ychwanegodd: "Nid oes cymhellion ariannol digonol i annog ein pobl ifanc i astudio yng Nghymru a chyfrannu'n adeiladol a brwdfrydig i'w dyfodol.
"Rydym felly yn gofyn yn gyhoeddus i Lywodraeth Cymru wneud tro pedol ar sail y polisi presennol a dirwyn i ben yr arfer o ariannu myfyrwyr i adael Cymru.
"Rydym hefyd yn galw arnynt i weddnewid cynllun Seren i fod yn gynllun sy'n annog myfyrwyr i fynychu prifysgolion yng Nghymru, gyda phwyslais arbennig ar ddenu myfyrwyr i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg lle mae hynny yn bosibl.
"Mae'r drefn bresennol, yn fwriadol ai peidio, yn hwyluso ecsodus gormod o'n pobl ifanc academaidd o Gymru."
Yn ôl Dylan Bryn Roberts, ni all Cymru "fforddio i barhau i danseilio'i hunan fel hyn a chyfrannu at wanhau'r wlad yn economaidd, ieithyddol a diwylliannol".
"Pa wlad waraidd arall sy'n dilyn polisi mor amlwg niweidiol?"
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd24 Mai 2023