'Angen buddsoddi er mwyn denu pobl ifanc yn ôl i Gymru'
- Cyhoeddwyd
Mae Aelod Ceidwadol o'r Senedd wedi mynegi pryderon am nifer y bobl ifanc sy'n gadael Cymru ac sydd ddim yn dychwelyd.
Yn ôl Sam Kurtz, mae'n rhaid buddsoddi yn swyddi'r dyfodol er mwyn mynd i'r afael â'r broblem.
Mae un cwmni sy'n ceisio atal be' sy'n cael ei alw yn brain drain yn dweud bod anwybodaeth am gyfleoedd yng Nghymru wedi cyfrannu at y sefyllfa.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i helpu pobl ifanc i gynllunio'u dyfodol yng Nghymru.
Mae'r twf ym mhoblogaeth Cymru yn arafu, yn ôl cyfrifiad 2021.
Roedd cynnydd o 1.4% yn y 10 mlynedd ddiwethaf - y cynnydd isaf ymhlith gwledydd y Deyrnas Unedig.
Mae ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau hefyd yn awgrymu bod mwy a mwy o awdurdodau lleol yng Nghymru wedi gweld pobl rhwng 18-29 oed yn symud i ffwrdd yn ystod y degawd diwethaf.
Bu Osian Elis, sy'n 24 oed ac yn dod o Abergele yn wreiddiol, yn astudio ym Mhrifysgol Rhydychen.
Ar ôl graddio, penderfynodd ddychwelyd i Gymru a chafodd swydd yn swyddfa Prif Weithredwr Cyngor Gwynedd.
"Trwy gydol fy nghyfnod i yn y brifysgol roedd chwilio am swydd lle y gallwn weithio drwy gyfrwng y Gymraeg yn rhywbeth pwysig iawn i fi," meddai.
Mae'n dweud bod yna ffactorau "tynnu a gwthio" sy'n golygu fod pobl ifanc yn gadael, a ddim yn dod yn ôl.
"O ran y [ffactorau] sydd yn 'gwthio' efallai mai'r ddwy brif broblem yw yn y lle cyntaf mae yna ddiffyg swyddi sy'n talu yn uchel a diffyg ystod o swyddi amrywiol.
"Ac yn ail, y broblem tai a'r ffaith bod 'na ddiffyg tai rhent fforddiadwy a hefyd diffyg tai i bobl allu prynu nhw."
Cafodd rhwydwaith Darogan ei sefydlu yn 2018 gyda'r nod o annog myfyrwyr fu'n astudio tu allan i Gymru i ddychwelyd ar ôl graddio.
Maen nhw bellach wedi derbyn buddsoddiad gan gwmni Equal Education Partners, gan olygu eu bod yn gwmni siartredig.
"Rwy'n meddwl bod lot o fyfyrwyr gyda diddordeb i ddod yn ôl," meddai Owain James, un o'r sylfaenwyr.
"Mae yna lot yn eu tynnu nhw yn ôl fel teulu, iaith ac amryw o bethau eraill.
"Er bod cyflogau efallai yn uwch yn Llundain... achos bod y costau byw gymaint yn uwch byddwch chi'n cael mwy o arian os byddech chi'n aros a gweithio yng Nghaerdydd ar gyfartaledd."
Ychwanegodd: "Mae yna elfen o daclo anwybodaeth eang."
'Angen pobl ifanc yng nghefn gwlad'
Mae'r Aelod o'r Senedd dros Orllewin Caerfyrddin a De Penfro, Sam Kurtz, yn dweud bod y sefyllfa yn "bryderus".
"Os ni'n edrych ar awdurdodau lleol fel Sir Benfro a llefydd cefn gwlad mae angen pobol ifanc i wneud swyddi lle mae'r boblogaeth yn heneiddio," meddai.
"Mae rhai pobl eisiau cyfle i adael Cymru i gael rhywbeth arall a dysgu rhywbeth arall, ac mae angen iddyn nhw gael y cymorth hynny.
"Ond wedyn mae'n rhaid bod rhywbeth i dynnu nhw yn ôl i Gymru i gyfrannu i fywyd yma.
"'Swn ni'n licio gweld Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn diwydiant, sydd am roi sgiliau i'r dyfodol i bobl yma yng Nghymru."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Gan ddefnyddio'r cryfderau unigryw sydd gan economïau lleol, rydyn ni'n gweithio i greu gwell swyddi ac i wella sgiliau er mwyn cefnogi busnesau ar adeg pan mae'r cefndir economaidd yn mynd yn fwyfwy anodd.
"Yn ddiweddarach yn y mis, bydd Gweinidog yr Economi yn amlinellu sut mae helpu pobl ifanc i sicrhau'r dyfodol uchelgeisiol y maen nhw'n ei haeddu yng Nghymru yn un o'r blaenoriaethau allweddol i economi Cymru."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd8 Awst 2023