Ysgolion yn gweithredu i atal disgyblion rhag fepio
- Cyhoeddwyd
Mae rhai ysgolion wedi gorfod gweithredu er mwyn atal disgyblion rhag fepio yn ystod oriau ysgol.
Mae'r camau'n cynnwys gosod peiriannau synhwyro e-sigarennau yn y toiledau a gwahardd plant sy'n cael eu dal yn eu defnyddio.
Roedd yr athrawon wnaethon ni eu holi am weld cyfreithiau llymach i atal pobl ifanc rhag cael gafael ar e-sigarennau.
Fe amlinellodd Llywodraeth y DU gynlluniau yn Araith y Brenin i osod cyfyngiadau llymach ar fepio a'u trethu.
Mae Llywodraeth Cymru wedi galw am waharddiad ar fêps untro ond does ganddyn nhw mo'r pŵer i'w gwahardd.
Mae Ysgol Cwm Brombil ym Mhort Talbot yn un o'r ysgolion sydd wedi gweithredu yn sgil yr "epidemig" fepio o fewn cymdeithas.
Mae gosod synwyryddion yn y toiledau wedi atal disgyblion "rhag cymryd y risg o gael eu dal" yn gadael gwersi i fepio, yn ôl y dirprwy bennaeth, Eurig Thomas.
Mae'n poeni am yr effaith ar les ac addysg plant os ydyn nhw'n gaeth i'r nicotin sydd yn y rhan fwyaf o e-sigarennau.
"Ein pryder ni yw bod disgyblion sydd yn gaeth i e-sigaréts yn mynd i wedyn ffindio fe'n anodd i ganolbwyntio yn y dosbarth," meddai.
"Os nad y'n nhw'n canolbwyntio yn y dosbarth, mae'n cael effaith ar y dysgu."
Os yw'r synwyryddion yn dangos bod rhywun wedi bod yn fepio, mae staff yn edrych ar y camerâu cylch cyfyng sydd tu allan i ardal y toiledau ac yn gallu gweld pa ddisgybl sydd wedi bod yna.
"Beth wnaethon ni oedd gweld bod rhywbeth bach yn gallu tyfu... a gwneud rhywbeth cyn bod e'n datblygu'n broblem fawr," dywedodd Mr Thomas.
'Taclo'r broblem yn galed'
Dyna oedd teimlad y tîm arwain yn Ysgol y Strade yn Llanelli hefyd, pan welon nhw fod fepio wedi datblygu'n broblem ar ôl y cyfnod clo.
Penderfynon nhw fynd ati "i daclo fe'n galed" a gwahardd plant sy'n cael eu dal yn fepio, ochr yn ochr â'u haddysgu am y rheolau a'r risgiau.
Mae unrhyw un sy'n cael eu dal yn fepio yn cael eu gwahardd am ddiwrnod yn y lle cyntaf, ond mae hynny'n cynyddu os ydyn nhw'n cael eu dal eto ac mae'r ysgol yn cydweithio gyda rhieni i geisio atgyfnerthu'r neges.
"Pan yn cymeryd y penderfyniad i wahardd disgybl o'r ysgol o hyd mae rhaid pwyso a mesur oherwydd ni'n atal addysg rhywun am gyfnod byr," dywedodd y pennaeth cynorthwyol Daniel Hughes.
"Mae'r neges wedi bod yn un llwyddiannus - ni'n gweld y nifer wedi cw'mpo'n sylweddol."
Ond mae'n golygu buddsoddiad sylweddol mewn adnoddau.
Mae staff wedi gwirfoddoli i gerdded o gwmpas y caeau a'r coridorau yn ystod amser cinio er mwyn ceisio sicrhau nad yw'r disgyblion yn cwympo i'r "demtasiwn" o fepio neu gymryd rhan mewn unrhyw ymddygiad gwael arall.
Tra bod rhai o doiledau'r ysgol yn rhai modern agored, mae plismona'r ystafelloedd ymolchi mwy traddodiadol yn fwy o her.
Dywedodd Iago sydd yn 12 ac ym Mlwyddyn 8 ei fod yn osgoi rhai tai bach.
"Bydde fi'n cymeryd y ffordd hir rownd i fynd i un arall achos fi'n teimlo ti'n gweld mwy mewn rhai tai bach na' rhai eraill," meddai.
"Grwpiau bach o ddisgyblion sydd yn [fepio]," meddai Matilda,12, sy'n credu bod disgyblion yn dylanwadu ar ei gilydd.
Dywedodd ei ffrind Seren bod "rhaid i nhw wybod y peryglon tu ôl i fepio, ond mae lan i nhw ar ddiwedd y dydd".
Mae Gus yn gallu gweld pam fod e-sigarennau'n gallu apelio i rai.
"Ma' nhw'n lliwgar a ma' lot o flavours, a fi'n credu mae'n denu sylw pobol oedran ni," dywedodd.
Mae hynny'n rhwystredigaeth i Daniel Hughes "gyda'r pris mor isel, gyda'r marchnata, yr hyrwyddo yn targedu'r gynulleidfa o bobol yn eu harddegau nhw, gyda lliwiau a blasau gwahanol".
Hoffai weld fepiau untro yn cael eu gwahardd yn gyfan gwbl, ac yn Ysgol Cwm Brombil mae Eurig Thomas hefyd o'r farn bod angen i'r gyfraith fod yn gadarnach.
"Mae argaeledd y pethau 'ma mor hawdd," dywedodd.
Mae plant, meddai, yn gallu cael gafael arnyn nhw ar-lein neu o rai siopau yn y dref, er ei fod yn anghyfreithlon i'w gwerthu i bobl ifanc dan 18 oed.
Beth yw'r rheolau ynghylch e-sigarennau?
Mae'n anghyfreithlon gwerthu e-sigarennau i blant dan 18 oed neu i'w prynu ar ran plentyn.
Fe amlinellodd Llywodraeth y DU gynlluniau yn Araith y Brenin i osod cyfyngiadau llymach ar fepio a'u trethu.
Mae Llywodraeth Cymru wedi galw am waharddiad ar fêps untro ond does ganddyn nhw ddim y pŵer i'w gwahardd.
Dywedodd cynrychiolwyr y diwydiant e-sigarennau bod angen gosod cosbau trwm ar unrhyw un sy'n targedu cynnyrch i blant yn fwriadol.
"Rydyn ni'n gwybod bod llawer o ysmygwyr sy'n ceisio rhoi'r gorau iddi, yn dibynnu ar fêps tafladwy a gallai eu gwahardd arwain at ganlyniadau angheuol," meddai John Dunne, cyfarwyddwr Cyffredinol yr UK Vaping Industry Association.
Mae ASH Cymru, sy'n ymgyrchu ar faterion yn ymwneud ag ysmygu a fepio, yn dweud y dylai plant sy'n gaeth i nicotin gael eu cefnogi, nid eu cosbi.
"Dylen ni gofio bob tro mai'r bobl sy'n gwerthu e-sigarennau i bobl ifanc dan oed yw'r troseddwyr, nid y plant eu hunain," meddai Suzanne Cass, prif weithredwr ASH Cymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Medi 2023
- Cyhoeddwyd12 Medi 2023