Arfon: Cefnu ar gynllun i uno adrannau chweched dosbarth
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Gwynedd wedi penderfynu peidio bwrw 'mlaen â chynllun posib i uno adrannau chweched dosbarth chwe ysgol uwchradd yn Arfon a chreu un ganolfan addysg ôl-16.
Fe gafodd y syniad ei grybwyll yn wreiddiol cyn y pandemig a hynny er mwyn gwella cyfleoedd addysg a gwneud arbedion, gyda'r sefyllfa yn ôl swyddogion bryd hynny yn "anghynaladwy".
Ond yn ôl adroddiad sydd wedi ei ystyried gan aelodau cabinet Cyngor Gwynedd, "dyw'r achos dros newid ddim mor gryf erbyn heddiw".
Mewn datganiad i Newyddion S4C fe ddywedodd deilydd portffolio addysg y cyngor, y Cynghorydd Beca Brown, mai'r flaenoriaeth rŵan ydy "cydweithio i adnabod y ffyrdd gorau o gryfhau'r sector".
Fe wynebodd y cynllun ymateb chwyrn gan ymgyrchwyr, gyda Chymdeithas yr Iaith yn dweud bod angen gwella'r ddarpariaeth bresennol.
Ar hyn o bryd, ysgolion Arfon ydy'r unig rai yng Ngwynedd - oni bai am Y Bala - sy'n parhau i fod ag adrannau chweched dosbarth traddodiadol.
Yn ardaloedd Dwyfor a Meirionnydd mae mwyafrif y disgyblion yn mynychu colegau chweched dosbarth megis Coleg Meirion Dwyfor, sydd â champysau yn Nolgellau a Phwllheli.
Ond mae gan ysgolion gogledd y sir - Dyffryn Ogwen ym Methesda, Tryfan a Friars ym Mangor, Brynrefail yn Llanrug, Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon a Dyffryn Nantlle ym Mhenygroes - oll eu hadran chweched eu hunain.
'Y pandemig wedi trawsnewid addysg'
Mewn adroddiad i gabinet y cyngor yn 2020 fe ddywedodd swyddogion eu bod eisiau dechrau trafodaeth, gan awgrymu bod y sefyllfa bresennol yn anghynaladwy.
Ond yn ystod cyfarfod o'r cabinet ddydd Mawrth fe amlinellodd adroddiad newydd, dolen allanol nad oedd awydd nag angen bellach i uno'r adrannau chweched dosbarth.
"Cynhaliwyd cyfarfodydd rhithiol gyda dysgwyr, rhieni, staff, dysgu a llywodraethwyr yn ystod y cyfnod er mwyn rhoi cyfle iddynt leisio eu barn a holi unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r maes," medd yr adroddiad.
"Cynhaliwyd chwe sesiwn rhithwir, a bu i dros 140 o rhanddeiliaid.
"Casgliad y broses ymgysylltu, a barn glir y penaethiaid, ydi y dylai'r ddarpariaeth addysg ôl-16 yn Arfon barhau o fewn y chwe ysgol uwchradd."
Mewn datganiad dywedodd y Cynghorydd Beca Brown, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Addysg, fod y pandemig wedi trawsnewid y ffordd mae addysg yn cael ei ddarparu.
Mae hynny, meddai, gan fod "defnydd creadigol o dechnoleg yn galluogi addysgwyr i gyfuno dysgu wyneb-wyneb a dysgu rhithiol effeithiol".
"Fel cabinet rydym wedi penderfynu rhoi'r cynlluniau blaenorol i ddiwygio darpariaeth addysg ôl-16 yn ardal Arfon i un ochr," dywedodd.
"Dros y misoedd nesaf byddwn yn ail-afael yn y mater er mwyn cydweithio a chyd-drafod gyda'n pobl ifanc, eu rhieni a staff dysgu i adnabod y ffyrdd gorau o gryfhau'r sector i'r dyfodol".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd22 Medi 2023