Galw am warchod adrannau chweched dosbarth ysgolion Arfon

  • Cyhoeddwyd
dosbarthFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae ymgyrchwyr wedi galw ar Gyngor Gwynedd i sicrhau na fydd unrhyw adrannau chweched dosbarth yn cau dan adolygiad newydd i drefn addysg ôl-16 yn y sir.

Mewn adroddiad i gabinet y cyngor mae swyddogion yn dweud eu bod eisiau dechrau trafodaeth ac yn awgrymu bod y sefyllfa bresennol yn anghynaladwy.

Ar hyn o bryd mae gan ysgolion uwchradd yng ngogledd y sir eu hadrannau chweched dosbarth eu hunain - yn wahanol i'r sefyllfa yn ne'r sir.

Dywedodd yr aelod cabinet dros addysg na fyddai newidiadau'n digwydd "dros nos" ac y byddan nhw'n trafod â'r ysgolion yn gyntaf.

'Tirlun yn newid'

Ar hyn o bryd, ysgolion Arfon ydy'r unig rai yng Ngwynedd - oni bai am Y Bala - sy'n parhau i fod ag adrannau chweched dosbarth traddodiadol.

Yn ardaloedd Dwyfor a Meirionnydd mae'r mwyafrif o ddisgyblion yn mynychu colegau chweched dosbarth megis Coleg Meirion Dwyfor, sydd â champws yn Nolgellau a Phwllheli.

Ond yng ngogledd y sir mae gan ysgolion Dyffryn Ogwen ym Methesda, Tryfan a Friars ym Mangor, Brynrefail yn Llanrug, Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon a Dyffryn Nantlle ym Mhenygroes, oll eu hadran chweched eu hunain.

Nawr, gyda disgwyliadau Llywodraeth Cymru yn newid ym maes addysg ôl-16 mae swyddogion y sir yn galw am edrych eto ar y sefyllfa yn Arfon.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Garem Jackson fod angen ystyried a yw'r drefn bresennol yn gweithio

Dim ond un o'r adrannau chweched dosbarth presennol sydd yn cwrdd â'r gofynion diweddaraf - Ysgol Friars, yr unig un sydd â dros 150 o ddisgyblion.

Yn ôl yr adroddiad, mae hynny'n golygu bod dros hanner y cyrsiau Lefel A craidd yn ysgolion Arfon yn cael eu rhedeg gyda llai na naw disgybl.

"Gyda thirlun addysg ôl-16 yn newid ar draws Cymru, mae'n amserol felly i ni gymryd cam yn ôl er mwyn gweld os ydy'r sefyllfa sydd ohoni yn cyfarch anghenion ein pobl ifanc yn llawn," meddai Garem Jackson, Pennaeth Addysg Cyngor Gwynedd.

"Trwy gynnal sgwrs agored rydym yn awyddus i weld pa agweddau o'r drefn bresennol sy'n gweithio'n dda a beth allwn ni ei wneud yn well i sicrhau cyfundrefn arloesol sy'n cynnig y gorau i bob dysgwr."

'Addysg cystal'

Gwrthwynebu unrhyw ymgais i gau adrannau chweched dosbarth yn yr ardal fyddai Cymdeithas yr Iaith, fodd bynnag.

"'Sa'n dda cael sicrwydd - nid cau, nid edrych ar y sefyllfa, ond gwella'r ddarpariaeth yn y chweched dosbarth yn yr ysgolion yma," meddai Angharad Tomos ar ran y mudiad.

"Mae gan y chweched dosbarth gyfraniad i'w wneud, yn yr ysgol ac yn y gymuned.

"Maen nhw'n cynnig arweiniad o ran cadw niferoedd yr ysgolion yma yn iawn, ac o ran y Gymraeg, mae hwnna'n andros o bwysig."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Angharad Tomos mae'n bwysig cael disgyblion hŷn pan mae'n dod at ddigwyddiadau fel eisteddfodau ysgol

Ychwanegodd mai'r unig reswm dros ystyried cau adrannau neu agor colegau chweched dosbarth newydd fyddai i "ganoli [ac] arbed arian".

"'Dan ni'n teimlo mai ateb yr 20fed Ganrif [ydy hynny]... efo technoleg newydd, mae'n bosib gwneud unrhyw beth mewn ysgolion, does dim rhaid gwthio plant allan o'u cymuned."

I Lleucu Non, prif ddisgybl Ysgol Dyffryn Nantlle mae cael chweched dosbarth o fewn ysgol uwchradd yn cynnig gwell profiad addysg.

"Dwi'n bendant yn cael addysg cystal ag y byswn i'n cael yn y coleg a dwi'n cael athrawon sy'n andros o gefnogol, ac adnoddau pellach na fyswn i ella'n cael yn y coleg," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Lleucu Non yn dweud bod disgyblion iau yn aml yn troi at y rhai hŷn yn hytrach nag athrawon am gymorth

Ychwanegodd: "'Dan ni'n bendant yn dylanwadu'n fawr iawn ar y blynyddoedd iau, a 'dan ni wastad yn agored i helpu nhw os 'dyn nhw ella ddim yn hyderus i fynd at athrawon."

Dywedodd aelod cabinet Cyngor Gwynedd dros addysg, Cemlyn Williams na fyddai unrhyw newidiadau yn digwydd "dros nos".

"Y peth pwysig ydy ein bod ni'n dod i'r penderfyniad cywir a bod y ddarpariaeth y gallwn ni ei gynnig i'n myfyrwyr yn gwireddu fy uchelgais fod pob plentyn yng Ngwynedd yn cyrraedd eu llawn botensial," meddai.

Bydd cabinet y cyngor yn trafod yr adroddiad mewn cyfarfod ar 10 Mawrth.