Pennaeth addysg Cyngor Gwynedd yn gadael y swydd

  • Cyhoeddwyd
Garem Jackson
Disgrifiad o’r llun,

Mae Garem Jackson wedi treulio degawd yn Adran Addysg Cyngor Gwynedd

Mae Cyngor Gwynedd wedi cadarnhau y bydd pennaeth addysg yr awdurdod yn gadael ei swydd "oherwydd rhesymau personol".

Bydd Garem Jackson yn gadael y cyngor ddiwedd mis Medi wedi degawd o weithio i'r cyngor.

Cafodd ei benodi'n swyddog addysg yn y lle cyntaf cyn sicrhau dyrchafiad i swydd y pennaeth.

Mae Mr Jackson a phrif weithredwr y cyngor, Dafydd Gibbard, "wedi ysgrifennu at holl benaethiaid ysgolion y sir i'w hysbysu" am yr ymadawiad.

Dechrau proses penodi olynydd 'yn syth'

Dywed y cyngor bod Mr Jackson, yn ei lythyr, "wedi cyfleu ei ddiolch i'w holl gydweithwyr ar draws cymuned addysg Gwynedd am eu cefnogaeth a'u cydweithrediad dros ei gyfnod yma".

Mae hefyd, medd y cyngor, "yn nodi iddo ddod i'r penderfyniad hwn oherwydd rhesymau personol".

Ychwanegodd: "Bydd y broses o benodi olynydd yn dechrau'n syth ac, yn y cyfamser, bydd y Prif Weithredwr a'r ddau Gyfarwyddwr Corfforaethol yn cefnogi tîm rheoli'r Adran Addysg er mwyn sicrhau parhad gwasanaeth i holl ysgolion y sir."

Pynciau cysylltiedig