Caerdydd: Ailagor ffyrdd wedi amheuon am ddyfais
- Cyhoeddwyd
Bu'n rhaid i blismyn gau nifer o ffyrdd yng Nghaerdydd brynhawn Mawrth wedi adroddiadau bod dyfais amheus wedi ei chanfod.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i Ffordd Titan yn ardal Sblot o'r brifddinas a dywedodd Heddlu'r De eu bod wedi cael cyngor gan arbenigwyr difa bomiau.
Fe gafodd yr ardal ei hynysu gan blismyn am gyfnod a bu'n rhaid cau nifer o ffyrdd.
Mae'r ffyrdd bellach wedi ailagor ond mae yna rybuddion bod y traffig yn drwm.
Fe gadarnhaodd yr heddlu yn gynnar nos Fawrth mai silindr nwy oedd y gwrthrych amheus a bod y digwyddiad wedi dod i ben yn ddiogel.
Ar eu cyfrif Facebook yn gynharach fe ddywedodd canolfan chwaraeon Ocean Park bod yr heddlu wedi dweud wrthyn nhw bod yn rhaid cau Ocean Way ar unwaith yn sgil canfod bom posib o'r Ail Ryfel Byd.
Ychwanegon nhw eu bod yn ymddiheuro wrth i bob digwyddiad yn y ganolfan nos Fawrth gael eu canslo.
Cafodd nifer o ffyrdd eu cau gan gynnwys Ffordd Lewis ac Ocean Way.
Bu'n rhaid i drigolion fflatiau Clos Moorhead adael eu cartrefi.
Cafodd ardal ymgynnull ei sefydlu ym maes parcio archfarchnad gyfagos.
Fe wnaeth y digwyddiad achosi oedi i deithwyr sy'n trio gadael canol y brifddinas ar hyd Ocean Way.