Sut i baratoi'r ardd ar gyfer y gwanwyn

  • Cyhoeddwyd
Heledd EvansFfynhonnell y llun, Heledd Evans

Wrth i Gymru fach oeri ac wrth i'r mwyafrif o'n byd natur fynd i gysgu am y gaeaf, mae tueddiad i eistedd yn ôl a chymryd hoe o'r ardd am ychydig fisoedd.

Er ein bod ni arddwyr yn llawn haeddu rhoi ein traed i fyny o flaen y tân am ennyd, mae yna ychydig gamau gallwn ni wneud er mwyn lleihau'r baich pan ddychwela cân y gwanwyn i'n swyno.

Heledd Evans sydd yma gyda'i chynghorion:

Gwaith cynnal a chadw

Yn dilyn haf ac hydref prysur yn tyfu a chyneafu, mae'r amser wedi cyrraedd i dwtio eich ardal dyfu er mwyn sicrhau eich bod yn osgoi unrhyw afiechydon diangen rhag ymgartrefu yno, yn ogystal â sicrhau cylchrediad da o aer.

Gwaredwch unrhyw blanhigion marw a chasglwch yr holl ddail sydd wedi disgyn o'r coed a'u rhoi ar eich gwlâu neu ardal dyfu. Drwy wneud hyn byddwch yn sicrhau cartref hapus i'r mwydod, ac yn dychwelyd unrhyw faeth wrth iddynt ymdreiddio i'r tir.

Ffynhonnell y llun, Heledd Evans
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r amser i baratoi'r gwlâu, drwy glirio planhigion marw, a defnyddio dail i roi maeth yn ôl i'r tir

Gallwch docio unrhyw blanhigion lluosflwydd (perennial) unwaith iddyn nhw orffen blodeuo. Hefyd mae'n amser da i dorri brigau coed a llwyni er mwyn osgoi gordyfiant yn ystod y tymor tyfu nesaf.

Os oes gennych blanhigion lluosflwydd mewn potiau tu allan, dyma'r amser i'w gorchuddio â chnu neu eu symud tu fewn er mwyn osgoi unrhyw ddifrod gan y tywydd oer.

Gwella safon y tir

Pridd iach a ffrwythlon yw'r prif hanfod ar gyfer tymor tyfu llwyddiannus, felly defnyddiwch y misoedd nesaf i ychwanegu mwy o faeth.

Nid oes gwell na rhoi gwrtaith ieir ar y tir yn ystod misoedd y gaeaf er mwyn sicrhau bod cyflenwad digonol o'r 13 maetholyn hanfodol ar gyfer planhigion, gan gynnwys nitrogen, ffosfforws, potasiwm, calsiwm a magnesiwm yn bennaf. Mae'n bosib gael gafael yn y gwrtaith yma mewn canolfannau garddio, ond dwi'n siŵr y gallwch ofyn o gwmpas am wrtaith ffres lleol.

Ffynhonnell y llun, Heledd Evans
Disgrifiad o’r llun,

Y garddwyr pluog sydd yn helpu Heledd gyda pharatoi'r tir ar gyfer flwyddyn nesa

Er mwyn cadw lleithder yn y tir ac osgoi erydiad i'r pridd mae gwellt neu naddion pren yn bethau hynod o effeithiol i'w rhoi fel tomwellt (mulch) ar y pridd. Gallwch hefyd osod gwlân dros eich ardal dyfu; yn araf iawn mae gwlân yn rhyddhau nitrogen i'r tir tra'n cynnal y lleithder a chadw tymheredd y ddaear ychydig yn fwy gwastad. Byddai hyn yn ddefnyddiol os oes gennych foron neu gynnyrch arall yn y ddaear o hyd er mwyn eu gwarchod.

Ffynhonnell y llun, Heledd Evans
Disgrifiad o’r llun,

Cofiwch roi gorchudd dros eich ardal dyfu er mwyn ei gwarchod rhag y tywydd

Cynllunio a phlannu

Er bod y gwanwyn yn teimlo'n bell i ffwrdd, mae'r cyfnod hwn yn hanfodol ar gyfer cynllunio er mwyn sicrhau'r cynhyrchiant gorau dros y flwyddyn nesa'. Dyma eich cyfle i ymchwilio i'r holl gynnyrch a dulliau gwahanol sydd i'w cael.

Mae creu calendr tyfu a phenderfynu ar y lleoliadau priodol ar gyfer bob planhigyn yn effeithiol gan ystyried y cyflenwad golau y bydd y planhigion yn eu derbyn, yn seiliedig ar faint y planhigion drws nesa' iddynt.

Wrth gynllunio mae modd hefyd penderfynu ar ble fyddwch yn gosod y canran mwyaf o wrtaith a maetholion yn y tir gan fod gan bob planhigyn a chynnyrch anghenion gwahanol. Enghraifft o hyn yw wrth blannu moron a bresych; nid yw moron yn hoffi llawer o wrtaith yn y tir ond mae bresych yn dueddol o dyfu'n wych gyda gwrtaith, felly, golyga hyn nad yw'n syniad da i'w gosod wrth ochr ei gilydd.

Ffynhonnell y llun, Heledd Evans
Disgrifiad o’r llun,

Er mwyn sicrhau cnwd llwyddiannus o lysiau y flwyddyn nesa', mae angen dechrau blaengynllunio nawr!

Profwch pH y pridd! Mae hyn yn ffordd effeithiol o sicrhau'r amgylchedd dyfu orau ar gyfer y planhigion; prynwch becyn profi pH rhad er mwyn gwneud hyn. Os ydy'r pH yn is na 6.0 ychwanegwch galch i'r tir, ac ychwanegwch lwch sylffwr os ydy pH eich pridd yn uwch na 7.5.

Hefyd, dyma'r amser i chi ystyried plannu bylbiau ar gyfer sicrhau môr o'n blodyn cenedlaethol ni ar draws y wlad, yn ogystal â thiwlipau a blodau'r grog.

Pob lwc gyda'ch gwaith cynnal a chynllunio!

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig