Caerdydd 0-1 West Bromwich Albion

  • Cyhoeddwyd
Jeremy Sarmiento yn cael ei herio gan Manolis SiopisFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Jeremy Sarmiento (chwith) oedd sgoriwr unig gôl y gêm

Colli ar eu tomen eu hunain oedd hanes Caerdydd yn erbyn West Bromwich Albion yn YyBencampwriaeth nos Fawrth.

Jeremy Sarmiento wnaeth sgorio unig gôl y gêm, wedi 50 o funudau, gydag ergyd wych i gornol bellaf y rhwyd.

Er ymdrechion o bell gan Josh Bowler a Rubin Colwill, fe fethodd yr Adar Gleision ag unioni'r sgôr.

O ganlyniad mae Caerdydd yn llithro un i'r wythfed safle - tri phwynt o dan safleoedd y gemau ail gyfle.