Dim prydau am ddim i blant Cymru dros y Nadolig

  • Cyhoeddwyd
Prydau ysgolFfynhonnell y llun, Ben Birchall

Mae'n ergyd nad yw Llywodraeth Cymru yn ariannu prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau'r Nadolig, yn ôl Coleg Brenhinol y Paediatregwyr ac Iechyd Plant (RCPCH).

Dywedodd Dr Nick Wilkinson fod yr RCPCH yn gweld mwy o blant â chyflyrau sy'n gysylltiedig â diffyg bwyd digonol.

Daw hyn wrth i Lywodraeth Cymru gadarnhau na fyddan nhw'n ariannu prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau'r Nadolig.

Dywedodd llefarydd bod y penderfyniad o ganlyniad i "bwysau ariannol sylweddol".

Cynnydd sylweddol mewn cyflyrau

Dywedodd Dr Wilkinson fod paediatregwyr wedi sylwi ar gynnydd mewn cyflyrau megis diabetes math 2 a gorfod tynnu dannedd.

"Rydym ni'n gweld mwy o bobl ifanc sydd dan bwysau a thros eu pwysau," meddai wrth raglen BBC Wales Live.

"Y rheswm i fod dros bwysau yw eich bod yn gwneud y dewisiadau anghywir o ran pa fwyd i'w fwyta pan fyddwch eisiau bwyd."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Nick Wilkinson ei fod wedi sylwi ar fwy o bobl ifanc sydd dros bwysau a dan bwysau

Dywedodd ei fod yn "gweld teuluoedd yn gwneud dewisiadau bwyd anodd, ac rydym yn gweld yr effeithiau hyn ar eu hiechyd meddwl".

"Mae yna hefyd benderfyniadau ynghylch defnyddio fêps neu smocio, sy'n cyfrannu at atal awydd am fwyd."

Diffyg arian

Yn ystod y pandemig, Llywodraeth Cymru oedd y cyntaf yn y DU i barhau â'r ddarpariaeth prydau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau.

Ond cafodd y cyllid ei dynnu fis Mehefin, gyda'r llywodraeth yn dweud nad oedd ganddyn nhw'r arian, a bod y cynllun wastad wedi bod yn rhywbeth dros dro.

Yn ystod yr haf dewisodd rhai cynghorau yng Nghymru i ariannu'r cynllun eu hunain, ond mae tri o'r rhai a wnaeth hynny - Caerffili, Gwynedd a Phowys - wedi dweud wrth Wales Live na fyddan nhw'n gallu gwneud hynny eto.

Mae disgwyl i gynghorau yng Nghymru wynebu diffyg ariannol o gannoedd o filiynau o bunnoedd dros y ddwy flynedd nesaf.

Dywedodd Dr Wilkinson fod paediatregwyr yn "bryderus iawn" am y canlyniadau hirdymor y gallai'r toriadau gael ar y "mwyaf bregus o fewn cymdeithas".

"Rydyn ni'n sylweddoli pwysigrwydd bwyd ar gyrhaeddiad addysgol ac ymgysylltiad addysgol, mae'n ymddangos fel ergyd i beidio â chynnig bwyd am ddim ar adeg mor allweddol."

£6m am y pythefnos

Yn y toriadau diweddar yn y gyllideb a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, roedd tanwariant o £11.5m ar y cynllun prydau ysgol am ddim i bawb.

Fe alwodd Sioned Williams AS, llefarydd Plaid Cymru dros Gyfiawnder Cymdeithasol, am i'r arian hwn gael ei ddefnyddio i ariannu prydau ysgol am ddim dros gyfnod y Nadolig a fyddai, medden nhw, yn costio £6m am y pythefnos.

Fe gyhuddodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar addysg, Laura Anne Jones AS, Lywodraeth Cymru o "fethu teuluoedd bregus".

"Dy'n nhw methu canmol eu hunain am ddarparu prydau ysgol am ddim pan fod problemau sylfaenol yn amlwg, yn enwedig dros gyfnodau estynedig y gwyliau," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynghorydd Emlyn Schiavone yn dweud y bydd y penderfyniad yn cael effaith ar deuluoedd ac ar blant

Yng Nghaerfyrddin, mae rhai o rieni a gwarchodwyr Ysgol y Dderwen yn bryderus ar effaith y diffyg prydiau dros y Nadolig ar deuluoedd a phlant yr ardal.

Dywedodd Emlyn Schiavone, sy'n gynghorydd tref Caerfyrddin, ei fod yn "derbyn bod lot o ddiffygion ariannol" a'i fod yn "bwysig bod ni'n blaenoriaethu'r pethau pwysig".

Wrth gasglu ei wyrion a'i wyresau o'r ysgol dywedodd ei fod yn "benderfyniad anghywir ac yn annoeth".

Wrth drafod y swm y byddai'r llywodraeth yn gorfod ei wario er mwyn darparu'r prydau, dywedodd: "Ma' fe'n lot o arian ond wedyn mae'n fuddsoddiad mewn teuluoedd, ac i fi mae hwnna'n fwy pwysig.

"O safbwynt blaenoriaethu, fi'n credu bo' nhw wedi blaenoriaethu yn y lle anghywir."

Disgrifiad o’r llun,

Ena - y fam-gu gyda'i hwyresau Lyla a Charlotte, a'i ŵyr Liam

Mae Ena, sy'n fam-gu, o'r farn y dylai'r llywodraeth "gario 'mlaen rhoi bwyd i'r plant achos ma' rhai teuluoedd yn ei gweld hi'n anodd iawn yn enwedig amser hyn o'r flwyddyn."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Roedd darpariaeth gwyliau yn ymyriad a gyflwynwyd dros dro yn ystod y pandemig.

"Yn anffodus oherwydd pwysau ariannol sylweddol sy'n wynebu cyllideb Cymru, nid oes modd adfer y ddarpariaeth prydau ysgol am ddim."

Mae mwy ar y stori yma ar raglen BBC Wales Live.