Rhybudd melyn am law trwm yn 11 o siroedd Cymru

  • Cyhoeddwyd
Glaw a map y Swyddfa DywyddFfynhonnell y llun, Getty / Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl glaw trwm yn 11 o siroedd Cymru

Mae yna rybudd y gallai glaw trwm achosi trafferthion yn ystod dydd Llun yn y de-ddwyrain a de Powys.

Ers hanner nos mae rhybudd melyn mewn grym yn 11 o siroedd Cymru - Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tydfil, Sir Fynwy, Casnewydd, Powys, Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Bro Morgannwg.

Bydd yn dod i ben am 18:00 ddydd Llun.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, fe allai'r amodau gwaethaf achosi llifogydd a tharfu ar wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus mewn rhai ardaloedd.

Ffynhonnell y llun, Dyn Tywydd | BBC Weather Watchers
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid cau rhan o'r A470 ger Blaenau Ffestiniog ddydd Sadwrn

Roedd yna rybudd melyn arall mewn grym ddydd Sul - am rew - yn siroedd Conwy, Dinbych, Fflint, Gwynedd, Wrecsam, Powys, Ceredigion, Caerfyrddin a Mynwy.

Dydy'r Swyddfa Dywydd ddim bellach yn cynnwys unrhyw ran o Gymru yn y rhybudd hwnnw, sy'n dod i ben am 12:00 ddydd Llun.

Cafodd rhai ffyrdd eu heffeithio gan yr eira dros y penwythnos, gan gynnwys yr A470 ger Blaenau Ffestiniog a gafodd ei chau am gyfnod brynhawn Sadwrn.

Roedd rhai rhagolygon wedi awgrymu y gallai hyd at 10cm (4 modfedd) o eira ar dir uchel yng Nghymru dros y penwythnos.

Pynciau cysylltiedig