Tywydd oer i ddod ac eira yn bosib, medd rhagolygon

  • Cyhoeddwyd
Dyma oedd yr olygfa yn Llanbister, Powys, yn ystod y penwythnosFfynhonnell y llun, Granddadscott
Disgrifiad o’r llun,

Dyma oedd yr olygfa yn Llanbister, Powys, yn ystod y penwythnos

Mae disgwyl iddi oeri ar draws Cymru yr wythnos hon wrth i'r tymheredd ostwng o dan y rhewbwynt a chyn diwedd yr wythnos mae'n bosib y bydd yna eira.

Dywed y Swyddfa Dywydd y bydd hi'n "oerach na'r hyn sy'n arferol" ac y bydd y tymheredd yn gostwng i -2C (28F).

Mae yna bryderon y gallai tywydd oerach fod yn heriol i'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd i dalu biliau gwresogi.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan S4C Tywydd

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan S4C Tywydd

Y rhagolygon gan gyflwynydd tywydd S4C - Alex Humphreys

Mae'r tywydd yn troi'n fwy gaeafol yr wythnos hon - y tymereddau'n gostwng, rhew yn y boreau, a'r gwyntoedd yn chwythu o'r Arctig.

Ond o ran eira, wel mae rhai modelau tywydd yn dangos y posibilrwydd o eira ddydd Iau, tra bod eraill yn dangos fawr ddim.

Felly mae'r manylion ar hyn o bryd yn ansicr ond un peth sydd yn sicr yw bod y risg o law, eirlaw ac eira yn cynyddu erbyn diwedd yr wythnos, ac mi fydd hi yn bendant yn teimlo'n fwy gaeafol.

Y darogan yw y bydd biliau ynni yn codi eto ym mis Ionawr ond fydd y cymorth a gafwyd llynedd gan Lywodraeth y DU ddim ar gael eleni.

Yn ogystal bydd rhai o'r cynlluniau cymorth a gafwyd gan Lywodraeth Cymru y llynedd yn dod i ben am nad ydyn nhw'n cael eu hariannu gan Lywodraeth y DU - yn eu plith y taliad o £200 a roddwyd gan gynghorau i deuluoedd incwm isel a'r taliad o £150 at gostau byw.

Dywedodd cyfarwyddwr National Energy Action Cymru, Ben Saltmarsh: "Gan nad oedd cefnogaeth benodol yn Natganiad yr Hydref ac wrth i'r prisiau ynni godi eto yn Ionawr, mae nifer yng Nghymru yn gobeithio am aeaf mwyn er mwyn osgoi mynd i drafferthion difrifol.

"Dyw nifer ddim yn gallu cynhesu eu cartrefi i lefelau sy'n ddiogel ac yn gyfforddus - ac mae hyn yn effeithio ar iechyd pobl."

Mae'n galw ar Lywodraeth y DU "i wneud ynni yn fwy fforddiadawy i gartrefi incwm isel" ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod eu Rhaglen Cartrefi Cynnes yn weithredol mor fuan â phosib.

Y gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru

Mae'r Gronfa Cymorth Dewisol yn rhoi grantiau i'r rhai sy'n wynebu caledi difrifol - i dalu am nwy a thrydan.

Mae modd i'r rhai sy'n ceisio am dâl gael cymorth o hyd at dair blynedd ac mae'r swm yn amrywio o £56 i un person sengl i £111 i gartref ar gyfer tri neu fwy.

I'r rhai sy'n defnyddio mesuryddion talu o flaen llaw mae cymorth ar gael drwy'r Y Sefydliad Banc Tanwydd.

Mae'r Rhaglen Cartrefi Cynnes yn cyllido gwelliannau arbed ynni drwy gynllun Nyth Llywodraeth Cymru.