George North i symud o'r Gweilch i Provence y tymor nesaf
- Cyhoeddwyd

Provence fydd pedwerydd clwb George North fel chwaraewr proffesiynol
Mae canolwr tîm rygbi Cymru, George North wedi cadarnhau y bydd yn ymuno â chlwb yn ail adran Ffrainc, Provence, y tymor nesaf.
Mae cytundeb y chwaraewr 31 oed gyda'r Gweilch yn dod i ben ar ddiwedd y tymor presennol.
Roedd y Gweilch wedi cyfaddef y byddai'n anodd dal gafael arno oherwydd ffactorau ariannol.
Dywedodd North: "Hoffwn i ddweud pa mor gyffrous ydw i a fy nheulu ynghylch ymuno â Provence tymor nesaf a dwi'n edrych ymlaen at gychwyn taith ryfeddol gyda'n gilydd."

Mae George North wedi ennill 118 o gapiau dros Gymru
Mae adroddiadau yn Ffrainc yn awgrymu y bydd ei gyflog dros £300,000 gyda'r clwb y tymor nesaf.
Mae'r Gweilch wedi dweud na fyddai'n bosib iddyn nhw dalu'r un arian ag unrhyw gynigion uchel am wasanaeth North gyda chyllidebau'r timau rhanbarthol yn gostwng eto y tymor nesaf - o £5.2m i £4.5m.
North yw'r chwaraewr rhyngwladol diweddaraf i adael Cymru.
Mae Gareth Anscombe a Liam Williams yn chwarae i glybiau yn Japan erbyn hyn ac mae Leigh Halfpenny a Rhys Patchell ar eu ffordd i Seland Newydd.
Bydd North yn chwarae unwaith eto gyda Tomas Francis, a symudodd o'r Gweilch i Provence yn yr haf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2018