Cynghrair y Cenhedloedd: Cymru 0-0 Yr Almaen

  • Cyhoeddwyd
Cymru v Yr AlmaenFfynhonnell y llun, EPA-EFE/REX/Shutterstock

Cafodd tîm pêl-droed merched Cymru gêm gyfartal galonogol yn erbyn Yr Almaen yn Abertawe, wrth i'w hymgyrch siomedig yng Nghynghrair y Cenhedloedd ddod i ben.

Roedd Cymru wedi colli pum gêm yn olynol yng Ngrŵp A3 - haen uchaf y gystadleuaeth - cyn nos Fawrth.

Ond bydd y gêm gyfartal ddi-sgôr gyda'r Almaen - tîm sy'n chweched yn netholion y byd, 23 safle yn uwch na Chymru - yn dangos bod modd iddynt gystadlu gyda'r goreuon.

Roedd carfan Gemma Grainger eisoes yn gwybod y byddan nhw'n disgyn o'r haen uchaf wedi iddyn nhw gael eu trechu gan Wlad yr Iâ nos Wener.

Roedd Yr Almaen angen buddugoliaeth i sicrhau eu lle ar frig y grŵp, ond maen nhw wedi llwyddo i wneud hynny er y gêm gyfartal ar ôl i Denmarc golli yn erbyn Gwlad yr Iâ.