Cyhuddo dyn o geisio llofruddio dynes feichiog yn Aberfan

  • Cyhoeddwyd
Heddlu yn Aberfan ddydd Mawrth
Disgrifiad o’r llun,

Swyddogion heddlu yn ymateb i'r digwyddiad yn Heol Moy, Aberfan ddydd Mawrth

Mae dyn 28 oed wedi cael ei gyhuddo o geisio llofruddio menyw feichiog yn dilyn digwyddiad yn Aberfan.

Roedd heddlu arfog yn rhan o'r ymateb yn dilyn y digwyddiad ar Heol Moy ychydig ar ôl 09:00 ddydd Mawrth.

Fe fydd Daniel Mihai Popescu, o Ferthyr Tudful, yn mynd o flaen llys ynadon y dref fore Iau.

Mae hefyd wedi'i gyhuddo o stelcian a chodi ofn ar dyst.

Dywed Heddlu De Cymru bod y fenyw 29 oed a gafodd anaf ar ôl cael ei thrywanu wedi gadael yr ysbyty erbyn hyn.

Roedd tystion wedi dweud wrth y BBC bod y fenyw yn feichiog.