Dyn oedrannus wedi marw yn dilyn tân yn Sir Conwy
- Cyhoeddwyd
Mae dyn oedrannus wedi marw yn dilyn tân mewn tŷ yn Sir Conwy.
Cafodd gwasanaeth tân y gogledd eu galw i'r eiddo ar Marston Drive, yn Llandrillo-yn-Rhos am 08:34 o'r gloch gan Heddlu'r Gogledd.
Roedd rhywun wedi cysylltu gyda'r heddlu yn mynegi pryder ynghylch diogelwch y preswylydd, a phan gyrhaeddodd injan dân o Fae Colwyn fe ddywedodd swyddogion heddlu fod yna arwyddion o dân yn yr adeilad.
Fe ddaethon nhw o hyd i'r dyn, y credir ei fod yn ei 80au, wedi marw mewn ystafell wely.
'Digwyddiad trasig'
Mae'r heddlu a'r gwasanaeth tân yn ymchwilio i'r achos ar y cyd.
"Nid yw achos y tân wedi'i benderfynu eto," dywedodd Justin Evans o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.
"Rydym yn cydymdeimlo'n ddwys â'r teulu ar yr adeg anodd hon.
"Mae hwn yn ddigwyddiad trasig a bydd yn peri gofid mawr i'r rhai sy'n ymwneud yn uniongyrchol a'r gymuned ehangach."