Heddlu'r Met: Dedfrydu dau Gymro am yrru negeseuon hiliol
- Cyhoeddwyd
Mae dau ddyn o Gymru ymhlith chwe chyn-swyddog gyda Heddlu'r Met sydd wedi cael eu dedfrydu i garchar wedi'i ohirio mewn cysylltiad â negeseuon WhatsApp hiliol, gan gynnwys rhai am Dduges Sussex.
Roedd Peter Booth, 66 oed o Landeilo, Sir Gâr, wedi pledio'n euog mewn gwrandawiad blaenorol i bedwar cyhuddiad o anfon negeseuon hiliol trwy ddull cyfathrebu cyhoeddus.
Roedd Trevor Lewton, 65 oed o Abertawe, wedi cyfaddef ei fod yntau wedi anfon un neges hiliol yn yr un modd.
Yn Llys Ynadon Westminster ddydd Iau cafodd Booth ei ddedfrydu i wyth wythnos o garchar, wedi'i ohirio am 12 mis, a 140 awr o waith heb dâl.
Fe gafodd Lewton ddedfryd o chwe wythnos o garchar, wedi'i ohirio am flwyddyn, a 65 awr o waith di-dâl.
Mae'r ddau wedi ymddeol o'r llu ers tro - Booth yn Ebrill 2001 a Lewton yn Awst 2009.
Roedd yr achos yn ymwneud â negeseuon a gafodd eu rhannu rhwng Medi 2020 a 2022.
Clywodd y llys ddydd Iau fod y grŵp WhatsApp ble gyrrwyd y negeseuon wedi'i sefydlu ar gyfer cyn-heddweision - y mwyafrif ohonynt yn byw yng Nghymru.
Ymchwiliad wedi rhaglen Newsnight
Fe wnaeth adran safonau proffesiynol y llu gynnal ymchwiliad mewn ymateb i adroddiad ar raglen Newsnight y BBC fis Hydref y llynedd.
Cafodd y pump eu cyhuddo dan Ddeddf Cyfathrebiadau 2003.
Mae'r Met wedi pwysleisio nad oedd yr un o'r chwech yn gweithio i'r llu pan wnaethon nhw rannu'r negeseuon o fewn grŵp WhatsApp.
Ychwanegodd y Met bod y diffynyddion wedi gwasanaethau mewn sawl rhan o'r llu yn ystod eu gyrfaoedd, a'u bod oll wedi treulio cyfnodau o fewn uned sy'n diogelu Palas Westminster a Downing Street ynghyd ag adeiladau llysgenhadol.
Roedd negeseuon eraill o fewn y grŵp yn crybwyll Tywysog a Thywysoges Cymru, Y Frenhines Elizabeth II a'r Tywysog Philip, a gwleidyddion yn San Steffan fel y Prif Weinidog Rishi Sunak, y cyn-Ysgrifennydd Cartref Priti Patel a'r cyn-Ysgrifennydd Iechyd Sajid Javid.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Medi 2023
- Cyhoeddwyd15 Awst 2023