Cyrraedd targed i brynu trysor Oes Efydd Llangeitho

  • Cyhoeddwyd
trysorauFfynhonnell y llun, Cyngor Sir Ceredigion

Mae Cyfeillion Amgueddfa Ceredigion wedi cyrraedd targed ariannol o £4,200 i brynu trysorau o'r Oes Efydd a'u cadw'n lleol.

Fe gafodd y trysorau eu canfod yn Llangeitho yn 2020 gan ddau oedd yn defnyddio datgelyddion metel ar dir amaethyddol yn y pentref - sydd tua phedair milltir o Dregaron.

Y gobaith oedd codi'r arian er mwyn gallu prynu'r eitemau a'u cadw yn yr ardal.

Mae'r canfyddiad yn cynnwys dros 50 o eitemau gan gynnwys arfau efydd ac addurniadau corff.

'Trysor yng ngwir ystyr y gair'

Dywedodd Bronwen Morgan, Llywydd Cyfeillion Amgueddfa Ceredigion bod y darganfyddiad yn "gyffrous ac yn drysor yng ngwir ystyr y gair".

Dywedodd bod y canfyddiad yn "ffordd dda i gyflwyno hanes i blant yr ardal".

"Fel Cyfeillion yr Amgueddfa mae'n bwysig ein bod yn gwneud popeth posib i sicrhau ein bod ni a'r cenedlaethau sydd i ddod yn medru gweld a gwerthfawrogi ein treftadaeth ni yma yng Ngheredigion."

Cafodd y celc ei ddatgan yn drysor gan y crwner yn unol â'r Ddeddf Trysor ac mae Amgueddfa Ceredigion wedi cael cynnig y cyfle brynu'r trysor i'w arddangos.

Pynciau cysylltiedig