Dim cosb i AS Ynys Môn am ddigwyddiad cyfnod Covid

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Virginia Crosbie
Disgrifiad o’r llun,

Mae Virginia Crosbie wedi ymddiheuro eisoes am fynychu digwyddiad yn San Steffan yn Rhagfyr 2020

Ni fydd AS Ynys Môn, Virginia Crosbie, nag unrhyw un arall yn cael cosb gan Heddlu'r Met mewn cysylltiad â digwyddiad yn Llundain pan roedd cyfyngiadau Covid mewn grym.

Fe ymddiheurodd yr AS Ceidwadol ym mis Mehefin, gan gydnabod ei bod wedi mynychu'r digwyddiad yn San Steffan ar 8 Rhagfyr 2020.

Yn ôl adroddiadau fe gafodd y digwyddiad ei drefnu gan Ddirprwy Lefarydd Tŷ'r Cyffredin, Y Fonesig Eleanor Laing i ddathlu penblwyddi Ms Crosbie ac un o aelodau Tŷ'r Arglwyddi, y Farwnes Jenkin.

Roedd cyfyngiadau Lefel 2 yn Llundain ar y pryd yn cyfyngu ar gymdeithasu dan do.

Dywedodd Heddlu'r Met bod swyddogion wedi "asesu'r wybodaeth oedd ar gael a dod i'r casgliad nad oedd yn cyrraedd y trothwy ar gyfer cyfeirio unrhyw rybuddion cosb benodol".

Ychwanegodd na fydd unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd.

Mae'r datganiad yn nodi diwedd ymholiadau'r llu i achosion honedig o dorri rheolau Covid, a arweiniodd at roi rhybuddion cosb benodol i gyn-Brif Weinidog y DU, Boris Johnson a'r Prif Weinidog presennol, Rishi Sunak mewn cysylltiad â dathliad pen-blwydd yn Downing Street.

Mae Ms Crosbie a'r Fonesig Eleanor Laing yn dal yn destun ymchwiliad gan Gomisiynydd Safonau Tŷ'r Cyffredin sy'n asesu a gafodd y rheolau ar gyfer Aelodau Seneddol eu torri.