Y Cymro a ddyfeisiodd ran o long ofod Apollo 11
- Cyhoeddwyd
Cyn iddo lanio ar y lleuad yn yr Eagle a cherdded ei "one small step..." roedd yn rhaid i Neil Armstrong fynd drwy ddrws wedi ei ddyfeisio gan ddyn o Sir Fôn.
Er bod cysylltiad yr ynys gyda thaith hanesyddol Apollo 11 wedi cael sylw gyda stori Tecwyn Roberts, un o swyddogion NASA oedd yn gyfrifol am system gyfathrebu'r prosiect, mae rhan ei gyd-weithiwr Glyn Oliver wedi mynd o dan y radar.
Ond heb ei gyfraniad o - a'r daith wnaeth o o Ynys Môn i'r Unol Daleithiau - fyddai Armstrong a Buzz Aldrin heb fedru mynd i'r llong-ofod yn y lle cynta'.
Roedd Glyn Oliver yn dod o Landegfan, ar lannau'r Fenai, ac yn fab i Alf Oliver - y person cyntaf o Sir Fôn i gael cap pêl-droed llawn i Gymru, yn yr un tîm â'r enwog Billy Meredith yn 1905.
Un sy'n cofio'r teulu ydi Dr Cen Williams, gafodd hefyd ei fagu yn Llandegfan, ac mae ganddo gof o'i dad o gwmpas 1960 yn sôn am Glyn Oliver yn "gwneud yn dda" ac wedi cael "job dda" yn yr Unol Daleithiau.
Feddyliodd o ddim am y peth am ddegawdau tan iddo wneud ychydig o ymchwil wrth baratoi at roi sgwrs i gymdeithas leol am rai o bobl Ynys Môn, wnaeth arwain at ddysgu mwy am Glyn Oliver.
O Landegfan i'r UDA
Dechreuodd Glyn ei yrfa broffesiynol ychydig filltiroedd o Landegfan mewn ffatri ger Biwmares, lle'r oedd o'n brentis efo Saunders-Roe, cwmni peirianyddol oedd yn arbenigo mewn awyrennau a chychod.
Eglurodd Cen ar raglen Aled Hughes: "Un o hogia Llandegfan oedd o, yn byw yn Min-y-don. 'Sa chi'n mynd i bendraw pier Bangor bron na fedrwch chi gyffwrdd Min-y-don - mae o ochr Sir Fôn o fan honno, dau dŷ bach yn sownd yn ei gilydd, a fo oedd y fenga' o wyth o blant.
"Aeth i Saunders-Roe fel dylunydd, os mai dyna ydi draftsman yn Gymraeg, ac yn y cyfnod hwnnw roedd pedwar prentis yn Saundes-Roe yn dangos addewid mawr ac mi symudodd y pedwar i Ynys Wyth - Tecs Roberts, 'da ni 'di clywed amdano fo o'r blaen [Tecwyn Roberts, NASA], Glyn Oliver, Seiriol Roberts a Vernon Griffiths."
Ar ôl cyfnod yn gweithio ar Ynys Wyth, ar ddiwedd yr 1940au fe briododd a mudo gyda'i wraig Doreen i Ganada i weithio gyda changen arall o'r cwmni a chymhwyso fel peiriannydd cynllunio awyrennau. Yna ar ôl symud i Efrog Newydd at Grumman Aerospace bu'n gweithio ar brosiect Apollo, fyddai yn y diwedd yn rhoi'r dyn cyntaf ar y lleuad yn 1969.
Ei waith oedd dylunio'r docking hatch - y drws oedd yn cysylltu'r brif long ofod, y Columbus, gyda'r Eagle, y llong lai oedd yn gwneud y daith fer olaf a glanio ar y lleuad.
Meddai Cen: "Doedd dim byd tebyg wedi ei gynllunio gynt a mae'n deud yn y papur newydd welish i am ei hanes o, roedden nhw'n ei ddyfynnu yn dweud doedd ganddo fo ddim syniad be' oedd gwyneb y lleuad - mi allai o fod yn gaws medda fo am hynna wyddai o... roedd honno'n broblem.
"Problem arall - roedd rhaid i'r drws fod yn ddigon cryf i ddal 20 sach glo. A'r trydedd broblem, wrth i ni sbïo nôl heddiw, ydi nad oedd ganddo fo ddim cyfrifiadur i wneud y gwaith, be' oedd ganddo fo oedd papur, pensel a phren mesur a llunio modelau. Allwch feddwl yn y cyfnod hwnnw roedd hon yn goblyn o dasg ac roedden nhw wrthi am flynyddoedd yn gweithio cyn 1969.
"Ac mi wnaeth o sylwi ar un peth pwysig. Mi sylwodd y gallai drws yr Eryr, oherwydd yr holl grydeddu, ac oherwydd bod yr holl bwysa' aer tu mewn ond dim pwysa aer tu allan, y gallai hynny orfodi drws y prif fodiwl i agor. Roedd o wedi sylwi hynny ac mi aeth nhw yn eu blaenau i ail-wampio a newid pethau.
"Roedd hynny yn rhywbeth diddorol iawn bod hogyn o Sir Fôn wedi sylwi ar beth mor bwysig â hynny yn hanes teithio i'r awyr a'r gofod."
Ond pan laniodd yr Eagle a Neil Armstrong yn camu ar y lleuad, chlywodd Glyn Oliver mo'r geiriau enwog. Roedd yn sownd mewn ciw traffic yn nhwnnel Baltimore rhwng Washington ac Efrog Newydd a dim signal gan y radio.
Yn ddiweddarach yn ei yrfa bu'n gweithio ar ddylunio telesgop lleuadol, awyrennau rhyfel a chynllunio gofodol yn Iran cyn gorffen ei yrfa ac ymddeol yn Cowes, Ynys Wyth. Bu farw yn 2014 yn 88 oed.