Y Bencampwriaeth: Buddugoliaethau i Gaerdydd ac Abertawe
- Cyhoeddwyd

Peniad Dimitrios Goutas oedd unig gôl y gêm
Caerdydd 1-0 Millwall
Roedd peniad hwyr Dimitrios Goutas yn ddigon i selio buddugoliaeth bwysig i dîm y brifddinas.
Er hanner cyntaf ddigon fflat, cafodd Yakou Meite, Duncan Watmore, Zian Flemming a Kevin Nisbet gyfleoedd i agor y sgorio wedi'r egwyl.
Ond peniodd Goutas ei drydedd gôl o'r tymor wedi 78 munud i setlo'r ornest.
Mae'r canlyniad yn gadael yr ymwelwyr heb fuddugoliaeth mewn pedair gêm tra bod Caerdydd yn selio buddugoliaeth werthfawr yn dilyn dwy golled yn olynol.

Charlie Patino oedd sgoriwr gôl gyntaf yr Elyrch
Rotherham 1-2 Abertawe
Enillodd Abertawe eu gêm gyntaf ar ôl diswyddo Michael Duff wrth iddyn nhw oresgyn 10 dyn Rotherham.
Fe gymrodd yr Elyrch reolaeth o'r gem wedi i Daniel Ayala gael ei anfon o'r maes wedi 17 munud.
Ond ar ôl methu llond llaw o gyfleoedd, fe aethon nhw ar y blaen braidd yn ffodus wrth i groesiad Jamie Paterson daro Patino ac i mewn i'r gôl.
Daeth Rotherham yn gyfartal mewn modd tebyg yn yr ail hanner wrth i dafliad hir Sean Morrison gael ei benio ymlaen gan Hakeem Odoffin ac adlamodd y bêl i mewn oddi ar Sam Nombe.
Ond gorffennodd eilydd yr Elyrch, Jerry Yates, yn daclus o groesiad Josh Key i adfer mantais yr ymwelwyr a sicrhau buddugoliaeth yr oedd ddirfawr ei angen.
Mae Rotherham yn aros yn ail o'r gwaelod yn y Bencampwriaeth tra bod Abertawe'n dringo i'r 16eg safle.