Rygbi: Canlyniadau'r pedwar rhanbarth Cymreig
- Cyhoeddwyd
Toulouse 52-7 Caerdydd
Cafodd Caerdydd grasfa gan Toulouse yng Nghwpan Pencampwyr Investec.
Marciodd Blair Kinghorn ei ymddangosiad gyntaf dros Toulouse trwy groesi ddwywaith wrth i bencampwyr Ffrainc hawlio buddugoliaeth o saith cais yn Stade Ernest Wallon.
Hawliodd wythwr tîm dan 20 Cymru, Mackenzie Martin, ei gais cyntaf mewn ymdrech ddewr.
Ond roedd tîm ifanc Caerdydd yn brwydro i ddal i fyny â grym a thalent y tîm cartref.
Sicrhaodd Matthis Lebel, Richie Arnold, Kinghorn ac Anthony Jelonch bwynt bonws erbyn hanner amser cyn i Arthur Retiere, Alban Placines a Kinghorn goroni'r berfformiad ac ychwanegu at y sgorfwrdd.
Castres Olympique 34-16 Scarlets
Dechreuodd y Scarlets eu hymgyrch Cwpan Her Ewrop gyda cholled yn erbyn Castres.
Dangosodd y tîm o Ffrainc eu safon gan fanteisio ar ddisgyblaeth wael wrth i'r Scarlets fynd lawr i 14 dyn ddwywaith yn yr hanner cyntaf.
Sgoriwyd ceisiau gay Josaia Raisuqe, Jeremy Fernandez, Abraham Papalii, Julien Dumora a Louis Le Brun mewn amgylchiadau anodd.
Ymatebodd Ioan Lloyd gyda 16 pwynt i'r Scarlets, gan gynnwys eu hunig gais.
Gweilch 43-34 Benetton
Dewi Lake oedd y seren wrth i'r Gweilch agor eu hymgyrch Cwpan Her gyda buddugoliaeth dros Benetton.
Croesodd y bachwr bedair gwaith wrth i fomentwm symud yn ôl ac ymlaen mewn gêm gyffrous o 10 cais yn Abertawe.
Roedd Lake yn un o lond dwrn o chwaraewyr rhyngwladol Cymru a oedd yn dychwelyd wrth i'r Gweilch ddial am golled yn y gynghrair y penwythnos diwethaf.
Sgoriodd Onisi Ratave ddwywaith i'r ymwelwyr, ond noson y Gweilch oedd hi yn y pen draw.
Dreigiau 24-7 Oyonnax
Brwydrodd y Dreigiau yn ol gyda thri chais yn y pum munud olaf i hawlio buddugoliaeth annisgwyl a phwyntiau bonws yng Nghwpan Her Ewrop.
Rhoddodd Leo Treilles yr ymwelwyr o Ffrainc ar y blaen o 7-0 ar hanner amser yn Rodney Parade.
Daeth Ashton Hewitt yn brif sgoriwr ceisiau Ewropeaidd y Dreigiau erioed gyda'i 14eg i lefelu'r sgôr.
Sgoriodd Rio Dyer ddwywaith wedi cais y clo Joe Davies, wrth i ddiweddglo hynod setlo'r gêm er mai 7-7 oedd y sgôr o hyd wedi 74 munud.
Y Dreigiau oedd yn dathlu, serch hynny, wrth sicrhau ond eu ail buddugoliaeth o'r tymor.