Dawn Bowden: Ymchwilio i honiad o dorri'r côd gweinidogol
- Cyhoeddwyd
Mae'r prif weinidog wedi lansio ymchwiliad i honiad bod y Dirprwy Weinidog Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi torri'r côd gweinidogol.
Mae'r Aelod Seneddol Llafur, Tonia Antoniazzi wedi cyhuddo Dawn Bowden o "ymdrech sinigaidd i geisio newid yr hanes" mewn cyfweliad gyda'r BBC.
Daw hynny ar ôl i Ms Bowden amddiffyn ei dewis i beidio ag ymyrryd yn sgandal rhywiaeth Undeb Rygbi Cymru.
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford fod Ms Bowden wedi gofyn am yr ymchwiliad, ac y bydd gwas sifil yn ei gynnal.
Ddydd Llun fe wnaeth Ms Antoniazzi alw ar Ms Bowden i ystyried ymddiswyddo dros ffrae URC.
Fe wnaeth hi hefyd gyhuddo Ms Bowden o wneud "nifer o honiadau anghywir" am y cyfathrebu rhwng y ddwy ynghylch yr honiadau am yr undeb.
Dywedodd Ms Bowden ar raglen Wales Politics ddydd Sul ei bod wedi gofyn am fwy o fanylion gan Ms Antoniazzi ond ei bod "byth wedi cael hynny".
Mae Ms Antoniazzi yn dweud ei bod wedi rhoi manylion cyswllt menywod a gafodd eu heffeithio i'r gweinidog, a hynny fisoedd cyn i raglen ddogfen BBC Cymru ar y mater gael ei darlledu, ac na wnaeth Ms Bowden gysylltu â nhw.
Ni wnaeth Ms Bowden gwrdd â phenaethiaid URC i drafod materion tan ar ôl i raglen ddogfen BBC Wales Investigates, a amlygodd "ddiwylliant gwenwynig" o rywiaeth a homoffobia, gael ei darlledu ym mis Ionawr 2023.
Dywedodd wrth raglen BBC Politics Wales nad oedd yn bosib iddi ymyrryd yn gynt oherwydd ei bod angen "manylion eu cwynion" i roi "sicrwydd iddi fod yr hyn oedd yn cael ei ddweud yn wir".
Yn dilyn Cwestiynau'r Prif Weinidog ddydd Mawrth, fe wnaeth Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies ymateb i'r sefyllfa gan ddweud: "Mae'n amlwg bod ychydig o wahaniaeth ynghylch yr hyn a ddigwyddodd a phryd rhwng y Gweinidog ac AS Gwyr, ac mae pobl Cymru yn haeddu gwybod y gwir am y sefyllfa." "Rydym yn gobeithio y bydd yr ymchwiliad yn drylwyr, ac na fydd yn cael ei lusgo ymlaen heb ganlyniad clir." "Bydd pawb sydd wedi cael eu heffeithio gan y digwyddiadau yma eisiau gweld yr ymchwiliad yn dod i derfyn yn gyflym."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2023