Ffrae dros faterion diwylliant Undeb Rygbi Cymru

  • Cyhoeddwyd
URCFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae ffrae wedi codi rhwng dau wleidydd Llafur ynghylch y modd y cafodd materion diwylliant Undeb Rygbi Cymru eu trin.

Mae Dawn Bowden, Gweinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, wedi amddiffyn y penderfyniad i beidio ag ymyrryd yn gynt yn ffrae'r Undeb.

Ond mae ei chydweithiwr Llafur, Tonia Antoniazzi AS yn dweud y gallai Ms Bowden fod "wedi gwneud mwy ar y pryd".

Ni wnaeth Ms Bowden gwrdd â phenaethiaid URC i drafod materion tan ar ôl i raglen ddogfen BBC Wales Investigates, a amlygodd "ddiwylliant gwenwynig" o rywiaeth a homoffobia, gael ei darlledu ym mis Ionawr 2023.

Roedd Aelod Seneddol Llafur Gŵyr, Tonia Antoniazzi, wedi codi pryderon am faterion o fewn URC y mis Mawrth blaenorol yn Nhŷ'r Cyffredin ac yn uniongyrchol â'r Dirprwy Weinidog yn Llywodraeth Cymru, Dawn Bowden AS.

Angen 'manylion eu cwynion' i roi 'sicrwydd'

Dywedodd Dawn Bowden wrth raglen BBC Politics Wales nad oedd yn bosib iddi ymyrryd yn gynt oherwydd ei bod angen "manylion eu cwynion" i roi "sicrwydd iddi fod yr hyn oedd yn cael ei ddweud yn wir".

Mae Tonia Antoniazzi AS wedi dweud bod Dawn Bowden wedi ei "chamgyfleu", ac ychwanegodd, "os mai dyna yw ei briff, yna mae ei briff yn anghywir".

Mae BBC Cymru wedi gweld gohebiaeth rhwng Dawn Bowden a Tonia Antoniazzi sy'n dangos bod pryderon wedi eu codi gyda'r Dirprwy Weinidog trwy gydol 2022.

Fe ddywedodd Dawn Bowden wrth Politics Wales ddydd Sul nad oedd yr hyn yr oedd ei chydweithiwr Llafur wedi'i ddweud wrthi yn Nhŷ'r Cyffredin na'r pryderon a godwyd ganddi mewn cyfarfodydd ac mewn llythyrau swyddogol yn ddigon iddi weithredu.

"Yr hyn roeddwn i wedi'i ddweud yn glir iawn oedd bod angen rhywbeth mwy nag awgrym yn unig fod yna broblem nad oedd modd ei "phennu".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dawn Bowden wrth Politics Wales nad oedd yn bosib iddi ymyrryd yn gynt

Dywedodd: "Yr hyn wnes i ei gynnig i Tonia, oedd iddi adael i mi gael y manylion o ran pwy oddent, beth oedd manylion eu cwynion, ac y gallent eu darparu i mi yn gyfrinachol. Ni fyddwn yn datgelu hynny i neb ond byddai'n rhoi sicrwydd i mi fod yr hyn a gafodd ei ddweud yn gwbl wir.

"Ni ddigwyddodd hynny. Ches i fyth y manylion.

"Aeth yr unigolion hynny i'r BBC wedyn ond os fydden nhw wedi dod ataf flwyddyn ynghynt, a dweud wrtha i mai dyma fi, dyma fy stori, dyma beth ddigwyddodd, byddwn i wedi bod mewn sefyllfa wahanol iawn."

'Defnyddio ei dylanwad'

Ychwanegodd Ms Bowden ei bod yn defnyddio ei dylanwad fel gweinidog gydag URC, a dywedodd mai'r dylanwad yna sydd "wedi dod â ni i'r lle rydyn ni nawr".

"Mae URC yn fusnes annibynnol, sy'n werth miliynau o bunnoedd, lle nad oes gennyf unrhyw reolaeth drosto," meddai.

"Nid oes gen i unrhyw reolaeth dros eu polisïau, gweithdrefnau, eu cyflogaeth, pwy y maent yn ei roi ar y Bwrdd, pwy yw'r Cadeirydd, pwy yw'r Prif Weithredwr."

Mae Tonia Antoniazzi, wedi ymateb i'r sylwadau yn y cyfweliad, gan ddweud ei bod yn teimlo ei bod wedi cael ei "chamgyfleu" a'i bod yn credu y gallai Ms Bowden "fod wedi gwneud mwy ar y pryd".

Ond mae'r "darlun mwy", meddai, "yn ymwneud â llywodraethu a phwy sy'n gyfrifol am ddwyn cyrff llywodraethu i gyfrif".

Disgrifiad o’r llun,

Mewn ymateb dywedodd Tonia Antoniazzi ei bod yn teimlo ei bod wedi ei 'chamgyfleu'

Ni wnaeth Ms Antoniazzi ddweud a oedd ganddi hyder yn y Dirprwy Weinidog ai peidio, gan ddweud: "Nid yw'n fater i mi os oes gennyf hyder mewn gweinidog penodol ai peidio."

Ond fe gododd gwestiynau am rolau gweinidogion yn gyffredinol wrth ddwyn sefydliadau i gyfrif.

"Rwy'n credu iddi wneud yr hyn y dywedwyd wrthi am ei wneud a sut y dywedwyd wrthi am ymateb oherwydd bod hynny o fewn ei chylch gorchwyl."

"Yn anffodus, os mai dyna yw ei chylch gwaith yna mae ei chylch gwaith yn anghywir," meddai Ms Antoniazzi.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru wrthod gwneud sylw ar y mater.