Perchennog siop deganau wedi gwerthu ei degan olaf
- Cyhoeddwyd
Yn 1968 roedd y Beatles ar frig y siartiau, Richard Nixon wedi ei ethol yn Arlywydd America a siop deganau LookAround yn Llangefni yn agor ei ddrysau am y tro cyntaf.
Dros hanner canrif yn ddiweddarach, mae John Hughes wedi gwerthu ei degan Nadolig olaf ac mae'r siop bellach wedi cau.
Mae sawl rheswm dros gau'r siop, ond mae John sy'n 81 oed yn pwysleisio ei fwriad i dreulio mwy o amser gyda'i deulu.
Wrth i'r silffoedd wagio, fe eisteddodd John i lawr gyda BBC Cymru Fyw i sôn am ei atgofion o redeg siop deganau yng nghanol tref Llangefni.
'Teimlad braf'
"Ers talwm roedd 'na wyth o siopau teganau ar Ynys Môn, dim ond dau neu dri sydd 'na ar ôl yng Ngogledd Cymru erbyn hyn," meddai.
Roedd y Nadolig wastad yn gyfnod prysur, ac mae John yn hel atgofion am deuluoedd yn dod i mewn i'r siop gyda'u plant i brynu anrhegion.
"Roedd o wastad yn deimlad braf gweld yr hen blant yn dod yma, roedd y tractors coch yn ofnadwy o boblogaidd yma ar Ynys Môn.
"Oes oedd gan Taid dractor coch, yna roedd yn rhaid i'r plant gael un hefyd. Dwi wedi gwerthu miloedd o Lego hefyd a 'dwn i ddim faint o ddoliau," meddai.
"Mae'n rhaid i mi ddeud mai'r peiriannau ffermio, tractors, treilars a'r anifeiliaid dwi wedi werthu fwyaf dros y blynyddoedd.
"Dwi wedi bod yn lwcus, mae'r bobl leol wedi bod yn dda iawn efo fi, ond mae prynu ar-lein wedi lladd sawl siop fach yn anffodus," meddai John.
Un elfen boblogaidd o werthiant John oedd y Clwb Nadolig yr oedd yn ei redeg yn flynyddol ac ar gael i'r holl gwsmeriaid oedd yn dymuno cynilo.
"Ers talwm roedd gen i Christmas club fatha pawb. Roedd pobl leol yn dod i mewn ac yn rhoi rhyw bunt, ddwy neu dair.
"Doedd un neu ddau methu cyfro Dolig, ond duwcs medda fi, talwch fi ar ôl Dolig, a wyddoch chi be', wnaeth neb adael mi i lawr, dyna sut bobl sydd 'na yn Llangefni a'r cylch," meddai.
"Dwi yma ers hanner can mlynedd, a dwi yn diolch i'r bobl sydd wedi fy nghefnogi i. Mae gen i ond atgofion melys, does 'na neb drwg wedi bod drwy'r drws 'ma, neb wedi disgyn allan, dwi wedi bod yn lwcus i gael y cwsmeriaid dwi wedi ei gael," meddai.
'Colled i'r dref'
O ran y dyfodol, dyw John ddim yn ymddeol yn gyfan gwbl; bydd yn helpu allan ar dderbynfa busnes cyfagos am rai oriau'r wythnos.
Cyn iddo gau'r drws ar hanner canrif o atgofion, roedd ambell ddeigryn wedi llifo lawr wyneb ambell i blentyn wnaeth glywed y newyddion fod y siop yn cau.
"Dwi wedi cael dau hogyn bach yn crio yma, fod siop John yn cau.
"Dwi hefyd wedi gweld pobl dwi heb weld ers blynyddoedd yn dod i mewn i ddymuno'n dda i mi ac i ddeud y bydd hi'n golled i'r dref.
"Wel, mi fydd hi'n golled i mi ei gweld nhw hefyd."
Hefyd o ddiddordeb: