Hanner canrif o werthu cig yn Llanrug
- Cyhoeddwyd
Mae siop gigydd Wavells ym mhentref Llanrug yn dathlu 50 mlynedd eleni.
Yn fachgen 13 oed yn 1978, aeth Bryn Williams o Lanrug i holi’r diweddar ben cigydd, Wavell Roberts, sefydlwr y busnes am ychydig o waith glanhau ar ôl ysgol.
Ers 2006, Bryn Williams a’i wraig Angela yw perchnogion siop gigydd a deli Wavells ar Ffordd yr Orsaf, Llanrug.
Dylanwad Wavell Roberts
“I ddweud y gwir wrtha chi, doedd gen i ddim diddordab o gwbl mewn bod mewn siop fwtsiar. Ond yn yr ysgol o’n i yn 13 oed a clywad bod Wavells isio rywun a wedyn dod yma i ddechra’ ar bnawn dydd Mawrth. Dwi yma ers hynny,” eglura Bryn.
Er nad oedd dewis gyrfa fel cigydd ar feddwl Bryn pan oedd yn 13 oed ac eisiau gwneud mymryn o bres poced, yn fuan y daeth i sylweddoli yr ystod eang o sgiliau sydd ei angen ar gigydd da:
“Mae angen gwybod sut i dorri cig ond hefyd sut i siarad efo pobl. Dyna’r peth pwysica un ddysgodd Wavell i fi. Wyt ti yn dysgu bob dydd, ti byth yn stopio dysgu.
“Fues i’n trafeilio pan o’n i’n 20 oed, es i o’ma i Awstralia a gweithio mewn ffatris cig yn fan’no lle o’n i’n gwneud yr un petha’ mewn ffordd wahanol. Dwi’n meddwl bo’ fi di cael ysgol dda mewn cig 'de.”
Cig lleol o’r safon uchaf
“Mynnwch y gorau a dewch atom ni”; dyna’r slogan sydd ar hysbyseb i’r siop yn un o rifynnau cynnar y papur bro lleol, Eco’r Wyddfa yn 1976, dair blynedd ers i ddrysau Wavells agor am y tro cyntaf.
Yr un yw ethos y siop heddiw sef darparu cig lleol o’r safon uchaf i’r cwsmeriaid.
Anrhydedd fawr i Bryn oedd ennill tlws Pencampwr Sosej Cymru yn 2006:
“Yn 2006 nathon ni drio’r gystadleuaeth sosej a mi guron ni’r gora’ yng Nghymru lawr yn Llanelwedd adeg hynny. Oedd hwnna yn fraint. Y sosej plaen traddodiadol gurodd ond mae yna rwbath ti isio i’w gael yma; cennin, plaen, chives, chilli, tomato!
Y tîm
Ers i Bryn ac Angela brynu’r busnes yn 2006 a’i ddatblygu a’i ehangu i fod yn ddeli hefyd, maen nhw wedi croesawu ambell aelod arall o'r teulu i'r busnes.
Yn rhan o dîm Wavells mae Paul a Chris sy’n gigyddion, ond hefyd Carl sy’n llys-fab i Bryn a Huw sy’n lys-fab yng nghyfraith iddo.
“Mae Carl yn magu moch yn ochra Rhos Isa sydd rhyw bum milltir i ffwrdd ac mae Huw ym Methel yn magu defaid ag ŵyn. Wedyn dwi’n cael y porc ac ŵyn ganddyn nhw a mae’r cig eidion yn cael ei brynu o ffermydd lleol gan gyfaill i mi, sy’n mynd â nhw i’r lladd-dy.
“Mae bob dim fwy neu lai mor lleol â fedra fo fod. ’Dan i’n ’neud bob dim ein hunain; peis, cigoedd oer i gyd, sosej rolls; 'eidial' i’r gweithwyr sy’n pasio a stopio i gael rwbath i ginio."
Ond sut beth yw cael gŵr a gwraig yn cyd-redeg busnes?
“Braf ar adega a ddim yn braf ar adega erill, ond rhan amla’ yn braf. Mae ’na ddipyn o ffraeo weithia, ond ti’n disgwyl hynna dwyt!” chwarddai Bryn.
Cigyddion yn cefnogi ei gilydd
Dros y degawdau mae Bryn wedi gweld newid mewn patrymau prynu cig ac mae wedi dysgu addasu i’r anghenion hynny.
“Mae’r ffordd o fwyta wedi newid, mae pobl ifanc fwy ar frys dyddia yma, isio ryw ready meals a phethau felly wedi 'neud yn barod iddyn nhw.
“Ers talwm oedd o’n datws a cig bob nos ond heddiw does ’na ddim amsar i ’neud petha felly."
Ond y brif her sy’n ei bryderu ar hyn o bryd yw costau byw.
“Mae pobl yn ei gweld hi yn dynn a ddim yn gwario fatha oeddan nhw. Mae’r gaeaf yn dod a phawb isio rhoi’r gwres ’mlaen. Mae hi am fod yn amsar reit bryderus a deud y gwir am y flwyddyn nesa ma ’wan. Costau’n codi ydi’r peth mwya’ sy’n codi ofn arna i."
Un peth sy’n codi ei galon mewn cyfnodau ansicr yw perthynas siopau cigydd y fro â’i gilydd.
“Os dwi’n rhedag allan o rwbath ’na i godi’r ffôn ar Wil yn Gaernarfon a mi ddudith o ‘Ew cei tad, gei di rwbath tisho' a fynta run fath yma. Does ’na byth ddrwgdeimlad.
“Ers talwm, roedd 'na ddwsinau o siopau bwtsieriaid; oedd 'na ddau yn Llanrug. ’Dan ni’n mynd yn betha prin... helpu ein gilydd ’dan ni fod.”
‘Mwy na lle i brynu cig’
Gyda siopau cigydd mewn pentrefi’n prinhau, mae angen cofio’r rôl maen nhw’n ei chwarae o fewn cymunedau yn ôl Bryn.
“Mae’r siop yn fwy na lle i ddod i brynu cig,” meddai.
“Mae o’n le i gael sgwrs a ffeindio allan be sy’n mynd ymlaen yn y pentra. Mae o’n social ofnadwy yn Llanrug yn fan’ma ’de, ’dach i’n gweld pobl yn dod i mewn, gwragedd gweddw a ballu; falla bo' nhw ddim yn gweld llawar o neb ganol wythnos – maen nhw’n dod acw, maen nhw cael sgwrs, maen nhw gweld rhywun arall ac yn dal i fyny ar y sgandals i gyd.
“Dwi wedi colli cenhedlaeth o’r hen bobl gwreiddiol ond rŵan mae eu plant nhw ’di dod drwadd a plant y plant. Dwi’n ’nabod y teuluoedd i gyd mewn ffordd ’de.
“Mae’r hen Wavell, mae o wedi ei gladdu rŵan ond dwi’n siŵr fasa fo’n falch ofnadwy. Nath o weld ni’n ehangu’r busnas a ballu ag oedd o’n falch iawn ’de.
“I gysidro bo’ ni’n mynd ers 50 mlynadd, mae o’n glod iddo fo ac i ninna sut mae’r busnas wedi cario ’mlaen."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2022