Cwpan FA Lloegr: Barnet 1-4 Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
Omar BogleFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Omar Bogle yn rhwydo ail gôl yr Alltudion

Mae Casnewydd trwodd i drydedd rownd Cwpan FA Lloegr ar ôl trechu Barnet oddi cartref nos Fawrth.

Roedd y gêm wreiddiol rhwng y ddau dîm wedi gorffen yn gyfartal 1-1 ar Rodney Parade, oedd yn golygu y bu'n rhaid ei hailchwarae.

Roedd y tîm o Adran Dau yn llawer rhy gryf i'r tîm o'r Gynghrair Genedlaethol yn yr hanner cyntaf, wrth i'r Alltudion sgorio tair trwy Lewis Payne, Omar Bogle a gôl i'w rwyd ei hun gan Danny Collinge.

Llwyddodd Barnet i daro 'nôl trwy Harry Pritchard, cyn i Seb Palmer-Houlden gau pen y mwdwl gyda phedwaredd gôl i Gasnewydd yn yr ail hanner.

Bydd Casnewydd yn obeithiol o gyrraedd pedwaredd rownd y gystadleuaeth hefyd, wrth iddyn nhw herio Eastleigh o'r Gynghrair Genedlaethol yn y rownd nesaf.