Atal trwydded tafarn yn Nhywyn, Sir Conwy ar ôl i blant feddwi

  • Cyhoeddwyd
Tafarn Tywyn ConwyFfynhonnell y llun, Google

Mae trwydded tafarn a chlwb nos yn Sir Conwy wedi ei hatal am dri mis, ar ôl i blant mor ifanc ag 13 oed gael eu canfod wedi meddwi ac yn anymwybodol ar y palmant y tu allan i'r adeilad.

Galwodd Heddlu'r Gogledd am adolygiad o statws Sonny's Bar a chlwb nos Bentley's yn Nhywyn yn dilyn y digwyddiad.

Cafodd cyfarfod o is-bwyllgor trwyddedu Cyngor Conwy ei gynnal ar 8 Rhagyr i ystyried adroddiad oedd yn cyfeirio at 16 trosedd ac achos o anhrefn yn ymwneud â'r lleoliad ers mis Ebrill.

Yn ystod y gwrandawiad, ymddiheurodd Emma Priestley, perchennog EJP Entertainment - sy'n rheoli'r dafarn a'r clwb - i'r is-bwyllgor, gan ddweud mai un o uwch-aelodau ei staff, sydd ddim yn gweithio yno bellach, oedd yn gyfrifol.

Dywedodd yr is-bwyllgor hefyd fod goruchwyliwr y safle wedi ei symud o'i swydd, a bod "amodau cynhwysfawr" wedi eu hychwanegu er mwyn atal plant rhag niwed.

Mae modd i'r perchennog apelio yn erbyn y penderfyniad.

Mae EJP Entertainment wedi cael cais am sylw.

Pynciau cysylltiedig