Caeau chwarae gwlyb yn amharu ar gemau clwb rygbi
- Cyhoeddwyd
Mae un o glybiau rygbi Caerdydd yn rhybuddio bod datblygiadau diweddar ger eu caeau chwarae yn golygu nad oes modd eu defnyddio yn aml.
Mae parc rasio BMX yn cael ei adeiladu ger caeau Clwb Rygbi Tredelerch yn nwyrain y brifddinas.
Dywed y clwb bod dŵr yn cronni ar eu caeau'n amlach, sy'n golygu gorfod gohirio gemau.
Dywedodd Cyngor Caerdydd bod cynlluniau ar y gweill i osod mesurau draeniad ychwanegol ar y safle.
Yn y cyfamser, mae'r clwb yn dweud eu bod yn gorfod ad-drefnu neu ganslo gemau.
'80% o ein tir dan ddŵr'
"Eleni am y tro cynta' ers sbel ni'n rhedeg tri tîm oedolion," meddai hyfforddwr y tîm cyntaf, Llyr Davies.
"Wythnos o'r blaen, o'dd y tri fod gartre ond o'dd e jyst yn amhosib.
"Mae'r tîm cynta' yn cael blaenoriaeth so mae'r ddau dîm arall yn edrych am gaeau eraill i chwarae arno.
"Dyw hwnna dim yn grêt pan chi fod adre - colli arian tu ôl i'r bar, dim cymaint o crowd. Mae'n real sialens o ran arian yn fwy na dim."
Yn wahanol i nifer o glybiau rygbi, mae gan Dredelerch nifer o gaeau, ond y broblem ar hyn o bryd yw nad oes modd chwarae ar nifer ohonyn nhw os oes 'na law wedi bod.
"Mae 'na le am bum cae 'ma ond dim ond y cae lawr y gwaelod ar y dde sydd mewn operation ar y funud - mae popeth arall dan ddŵr," meddai Llyr Davies.
"Fi 'di bod 'ma am ddau dymor, a dim ond dwy gêm ni wedi chwarae ar gae y tîm cynta' jyst achos y dŵr sydd arno fe sydd ddim yn mynd i unman.
"Yr eironi yw mae llwyth o dir 'da ni, ond ma 80% ohono fe yn covered mewn dŵr yn anffodus."
Mae modd i'r clwb ddefnyddio cyfleusterau caeau chwarae Prifysgol Caerdydd, sydd drws nesaf i'w tir nhw, ac yn cynnwys caeau artiffisial 3G, ond mae hynny'n golygu cost ychwanegol.
"Rhwng sesiynau hyfforddi a gemau ar ddydd Sul, ry'n ni'n mynd i fod yn talu bron i £10,000 eleni," meddai cadeirydd yr adran iau yn Nhredelerch, Jack Hedges.
"Dyw hynny jyst ddim yn mynd i fod yn gynaliadwy yn y dyfodol heb ryw fath o gefnogaeth neu ateb tymor hir."
Pryder arall i Dredelerch yw'r posibilrwydd o golli chwaraewyr os nad oes modd iddyn nhw gynnal gemau i'w holl dimau yn rheolaidd, yn enwedig ymhlith y timau ieuenctid
"Cadw nhw i chwarae yw'r sialens ar y funud," meddai Llyr Davies.
"Y fwya' maen nhw ddim yn chwarae, fwya' falle bod rhieni yn meddwl 'reit, a'i â nhw i glwb arall lawr yr hewl sydd falle gyda caeau gwell lle maen nhw'n guaranteed o allu chwarae'.
"Mae hwnna'n broblem cadw nhw i ddod nôl."
I chwaraewyr ifanc fel Sam a Travis, sy'n 12 oed, cael y cyfle i chwarae ar eu tomen eu hunain sydd bwysica'
"Weithiau fi'n gutted - fi'n excited i chwarae ar ddydd Sul pryd mae [y gêm] bant," meddai Sam.
"Mae'r [cae] jyst yn rhoi i ni fwy o energy i ni, a mae'n well chwarae adre nag i ffwrdd," meddai Travis.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Yn ystod cyfnodau o law trwm, fel yr hyn rydyn ni wedi'i weld dros yr wythnosau diwethaf, mae caeau chwarae - fel ym Mharc Glanyrafon - yn gallu bod o dan ddŵr ac mae hyn yn gallu bod yn fwyfwy cyffredin wrth i'n hinsawdd newid.
"Yng ngwyneb hyn, mae'r cyngor yn canolbwyntio adnoddau ar ddatblygu caeau 4G ledled y ddinas ac ar adnoddau cymunedol mewn ysgolion, all cael eu defnyddio gan glybiau chwaraeon niferus.
"Y trac BMX o safon rhyngwladol yn Llanrhymni fydd y cyntaf o'i fath yn y ddinas, ac mae'n brosiect partneriaeth yn cael ei arwain gan Glwb Rasio BMX Caerdydd, ac yn cael ei ariannu gan Chwaraeon Cymru, Beicio Cymru, Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd.
"Ochr yn ochr â'r cyfleusterau ar y trac, fydd gobeithio yn cyflwyno cenhedlaeth newydd o feicwyr i'r gamp Olympaidd hon, mae disgwyl i gynllun draeniad cynaliadwy ychwanegol gael ei osod er mwyn helpu i ddraenio dŵr yn gynt o gaeau gerllaw.
"Mae ymgynghorwyr wedi eu penodi gan y tim cynllun BMX i gyflwyno'r cynllun draeniad, ac mae'r Cyngor yn parhau i drafod yn uniongyrchol gyda Chlwb Rygbi Tredelerch."
Cynllun clirio'r dŵr yn gynt
Dywedodd llefarydd ar ran Clwb Rasio BMX Caerdydd: "Rydyn ni'n llawn sylweddoli'r sefyllfa yn y clwb rygbi (ac yn wir nifer o glybiau rygbi eraill ar draw y ddinas, yn y cyfnod hwn tra bod lot fawr o law wedi bod).
"Gallaf gadarnhau - yn unol â'r hyn ddywedodd Cyngor Caerdydd - mae Clwb Rasio BMX Caerdydd wedi penodi ymgynghorwyr draeniad cynaliadwy i gyflwyno cynllun draeniad ychwanegol i helpu i ddŵr glirio'n gynt o gaeau gerllaw.
"Rydym yn siarad â'r clwb rygbi, ac yn gobeithio cwblhau'r holl waith ac agor y trac yn yr Haf 2024.
"Rydym yn edrych ymlaen at groesawu'r gymuned leol i'n seremoni agoriadol, ac yn gobeithio bydd nifer ohonyn nhw'n dod yn aelodau o'n clwb."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Ebrill 2023