Glaw trwm yn her barhaus i glybiau llawr gwlad
- Cyhoeddwyd
Mae nifer o glybiau chwaraeon ar hyd a lled Cymru yn dweud eu bod yn dioddef oherwydd glaw trwm sy'n difrodi eu caeau.
Mae'r rhan fwyaf o glybiau llawr gwlad yn gyfrifol am eu cynnal a chadw eu hunain, ond maen nhw'n cael rhywfaint o gymorth gan gyrff cyhoeddus.
Dywedodd Chwaraeon Cymru eu bod yn cynnig cefnogaeth ar adegau o dywydd eithafol.
Daw wrth i Gymru gofnodi'r gwanwyn gwlypaf ers 40 mlynedd eleni, yn ôl y Swyddfa Dywydd.
'Mae'n wallgof'
Mae clwb pêl-droed Caerphilly Athletic wedi wynebu problemau lu gyda'u maes, yn bennaf oherwydd tywydd gwael.
Dywed y clwb fod y sefyllfa yn costio cannoedd o bunnoedd iddyn nhw am eu bod yn gorfod rhentu generaduron, caeau eraill a bysiau mini.
Maen nhw hefyd wedi gorfod treulio oriau'n clirio dŵr ac yn gosod tywod i'w gwneud yn bosib chwarae ar y caeau.
Ers dechrau'r tymor, dim ond pedwar o'u gemau cartref sydd wedi'u cynnal ar eu cae nhw, gyda rheolwr y tîm Ian Butterworth yn dweud bod hyn yn eu rhoi dan "anfantais".
Mae'r rhan fwyaf o'u gemau'n cael eu chwarae ar gaeau artiffisial 3G gerllaw, sy'n ymdopi'n well gyda'r rhan fwyaf o dywydd.
Ond mae'n dod ar gost o tua £200 y gêm, gyda'r clwb - sy'n chwarae yn y bumed haen - yn cael ei ariannu trwy nawdd a chyfraniad chwaraewyr.
Dywedodd Mr Butterworth, sydd hefyd yn rhan o bwyllgor y clwb: "Mae Caerffili'n ddalgylch mor fawr, a does ganddi ddim cyfleusterau yn yr ardal y gallwn ei ddefnyddio... Mae'n wallgof."
Ychwanegodd fod yr amodau'n gwahanu yn fwy yn erbyn clybiau fel nhw na'r rhai sydd â mwy o arian a chyfleusterau gwell.
"Mae clybiau sy'n chwarae mewn cynghrair uwch yn cael blaenoriaeth gyda mynediad i'r cyfleusterau 3G, hyd yn oed os ydyn nhw'n dod o du allan i'r ardal," meddai.
"Dydyn ni ddim yn cael ein hariannu gan unrhyw un. Does gennym ni ddim miliwnydd fel perchennog. Felly ry'n ni'n dibynnu ar y bechgyn a nawdd lleol."
Mae Mr Butterworth yn siarad â'r cyngor am ddefnyddio parc lleol, lle allai gwaith cael ei gynnal er mwyn atal hyn rhag digwydd yn y dyfodol.
Ond dywedodd: "Rydyn ni jyst lan yn ei herbyn nawr ac mae'r gynghrair yn gofyn cwestiynau i ni am y cae gan nad yw byth ar gael. A ddylem ni fod yn chwarae yn y gynghrair hon?
"Rwy'n rhoi llawer o ymdrech i mewn iddo, mae'n wirfoddol, ac rwyf wrth fy modd."
Ond ychwanegodd: "Dwi weithiau yn meddwl beth yw'r pwynt?"
Y penwythnos yma mae'r clwb wedi archebu cae yng Nghaerdydd, gan gostio £200 iddyn nhw.
Dywedodd Mr Butterworth ei fod yn teimlo fod gwelliannau'n cael eu gwneud a phethau'n "mynd y ffordd iawn", ond y bydd heriau o hyd tan y bydd datrysiad parhaol.
'Dydyn ni ddim wedi chwarae ers mis Ionawr'
Nid yw Clwb Rygbi Porthcawl wedi gallu chwarae gêm gartref ers mis Ionawr.
Mae hyfforddwyr y clwb yn galw ar y gymuned i weithio gyda'i gilydd er mwyn sicrhau bod yr adnoddau'n parhau i allu cael eu defnyddio.
"Allwch chi ddim mynd ar y cae, nid yn unig i chwarae gemau, ond hyd yn oed i ymarfer," dywedodd Jon Staples, hyfforddwr tîm dan-15 y clwb.
"Mae'r dŵr wedi difrodi'r caeau cymaint fel y bydden ni dim ond yn eu difrodi hyd yn oed yn fwy trwy ymarfer arnyn nhw, a fydden ni ddim yn gallu eu defnyddio o gwbl yn y dyfodol."
I Mr Staples, un ateb yw i "bwmpio arian" i mewn i chwaraeon llawr gwlad a newid caeau i fod yn rhai artiffisial fel bod modd i'r gymuned gyfan eu defnyddio drwy gydol y flwyddyn.
Dywedodd Owen Hathway, cyfarwyddwr cynorthwyol mewnwelediad, polisi a materion cyhoeddus Chwaraeon Cymru: "Rydym am weld cymaint o bobl â phosibl yn cymryd rhan mewn chwaraeon ac yn amlwg gall amodau chwarae gwael, yn enwedig mewn cyfnodau o dywydd gwael sylweddol, darfu ar hyn.
"Ond mae cefnogaeth ar gael i glybiau cymunedol a sefydliadau sy'n cael trafferth gydag amodau caeau."
Ychwanegodd fod Cronfa Cymru Actif, dolen allanol yn cynnig cyllid i wella ansawdd caeau, fel gwella draenio.
Dywedodd eu bod yn gweithio ar y cyd gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru, Hoci Cymru ac Undeb Rygbi Cymru, gan ddarparu cyllid cyfalaf ar gyfer datblygu caeau 3G.
Ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod "buddsoddi mewn cyfleusterau llawr gwlad yn addewid allweddol" iddynt.
"Ry'n ni wedi clustnodi cyllid o £8m y flwyddyn (£24m dros dair blynedd) i yrru gwelliannau sy'n allweddol er mwyn cynyddu'r nifer sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon," meddai.
"Mae nifer o feysydd yng Nghymru dan reolaeth awdurdodau lleol, a nhw sydd â'r cyfrifoldeb o'u cynnal."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd13 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2023