Cwpan Her Ewrop: Montpellier 38-5 Gweilch

  • Cyhoeddwyd
Adam BeardFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Cafodd y Gweilch gweir oddi cartref ym Montpellier yng Nghwpan Her Ewrop ddydd Sul.

Sefydlodd y Ffrancwyr fantais sylweddol o 19-0 yn yr hanner cyntaf gyda dau gais i George Bridge ac un i Léo Coly.

Tarodd y Gweilch yn ôl ar ddechrau'r ail hanner trwy Reuben Morgan-Williams, ond dyna oedd unig bwyntiau'r prynhawn i'r Cymry.

Fe aeth Montpellier ymlaen i ymestyn eu mantais gyda cheisiau gan Vano Karkadze a dau i Auguste Cadot.

Mae'r canlyniad yn golygu fod pedwar rhanbarth Cymru wedi colli yn Ewrop y penwythnos hwn.

Pynciau cysylltiedig