Llangefni: Arestio pedwar wedi tân 'bwriadol' mewn adeilad hanesyddol

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Tân mawr yn un o adeiladau hanesyddol Llangefni

Mae pedwar o blant yn eu harddegau wedi cael eu harestio yn dilyn tân mawr sydd wedi difrodi adeilad hanesyddol ar Ynys Môn.

Bu ymladdwyr tân wrthi am oriau dros nos yn ceisio rheoli'r fflamau ar Ffordd Glanhwfa, Llangefni nos Sul.

Cafodd pum criw eu hanfon i'r hen orsaf heddlu, oedd hefyd yn arfer bod yn bencadlys cyngor, wedi i'r gwasanaethau brys gael eu galw am 21:20.

Yn dilyn ymchwiliad ar y cyd gyda Heddlu'r Gogledd, dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru mai'r achos mwyaf tebygol oedd "cynnau bwriadol".

Brynhawn Llun cadarnhaodd y llu fod pedwar person ifanc yn eu harddegau wedi cael eu harestio ar amheuaeth o losgi bwriadol.

Mae'r pedwar wedi eu cadw yn y ddalfa wrth i ymholiadau'r heddlu barhau.

Dim anafiadau

Mae difrod sylweddol wedi ei achosi i'r adeilad, ond does dim adroddiadau bod unrhyw un wedi cael anaf.

Roedd siambrau hen gyngor bwrdeistref yr ynys a'r cyngor presennol yn arfer bod yn yr adeilad, sy'n dyddio o'r 19eg ganrif.

Tan yn ddiweddar roedd Cyngor Tref Llangefni yn cyfarfod yno hefyd, ond mae cais cynllunio wedi ei gyflwyno i'w droi'n fflatiau.

Disgrifiad,

Cafodd degau o ymladdwyr tân eu hanfon i'r digwyddiad yn Llangefni

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod dim risg i'r cyhoedd ond fore Llun roedden nhw'n cynghori trigolion lleol i gadw eu drysau a'u ffenestri ar gau rhag y mwg.

Roedd yna apêl hefyd i bobl "osgoi'r ardal er mwyn i'r gwasanaethau brys allu wneud eu gwaith yn ddiogel".

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Richard Griffith: "'Da ni'n credu fod y tân hwn wedi cael ei gynnau'n fwriadol. 'Da ni'n ymchwilio ar hyn o bryd er mwyn deall yr amgylchiadau.

"Dwi'n apelio ar unrhyw un a oedd efallai yn yr ardal neithiwr ac efallai welodd y digwyddiad neu sydd efallai hefo ffilm camera cerbyd neu ffôn i gysylltu hefo ni.

"Diolch i'r gymuned leol am eu hamynedd a'u help nhw wrth i'r gwasanaethau brys ddelio hefo'r tân."

'Tân sylweddol'

Nos Sul bu'r ffordd ar gau a thraffig yn cael ei ddargyfeirio trwy stâd ddiwydiannol y dref.

Roedd degau o ddiffoddwyr tân wedi eu galw i'r digwyddiad, a chriwiau wedi eu hanfon o orsafoedd Llangefni, Caergybi, Porthaethwy a Bangor yn y lle cyntaf cyn i gydweithwyr o orsafoedd eraill ymuno â'r ymdrech.

Dywedodd y gwasanaeth tân fore Llun eu bod wedi israddio'r digwyddiad a bod uned rheoli digwyddiad wedi gadael y safle.

Disgrifiad o’r llun,

Erbyn fore Llun, roedd difrod mawr wedi ei wneud i'r adeilad

Disgrifiad o’r llun,

Roedd diffoddwyr yn parhau ar y safle fore Llun, ond mae'r tân dan reolaeth

Dywedodd Mike Plant o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ei fod yn "dân sylweddol".

"Cafodd criwiau eu galw i mewn yn wreiddiol tua 22:00 neithiwr i dân oedd wedi datblygu'n dda oedd wedi cynnau drwy'r to.

"Roedd potensial y gallai effeithio ar eiddo cyfagos felly bu'r criwiau'n gweithio'n galed iawn drwy'r nos i wneud yn siŵr nad oedd y tân yn lledu i unrhyw eiddo arall.

"Roedd y tân wedi ei amgylchynu erbyn pedwar o'r gloch y bore, dyma'r pwynt pan oedd y fflamau wedi diffodd."

Mewn neges ar Facebook, dolen allanol, dywedwyd na chafodd Canolfan Glanhwfa a Chapel Moreia eu heffeithio gan y tân a "bydd ein gwasanaethau yn parhau fel arfer wythnos yma".

Pynciau cysylltiedig