Rownd a Rownd 'wedi buddsoddi £175m yn economi'r gogledd'

Set Rownd a Rownd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gyfres yn cael ei ffilmio ym Mhorthaethwy a Llangefni ar Ynys Môn

  • Cyhoeddwyd

Mae'r gyfres boblogaidd Rownd a Rownd wedi arwain at oddeutu "£175m yn cael ei fuddsoddi" gan S4C yn y gogledd-orllewin, yn ôl y cwmni sy'n creu'r rhaglen.

Wrth nodi 30 o flynyddoedd ers dechrau darlledu'r gyfres sydd wedi'i lleoli ar Ynys Môn, mae cwmni Rondo yn dweud bod y rhaglen yn cynnig cyfleoedd i sector greadigol gogledd Cymru yn ogystal â swyddi i'r gadwyn gyflenwi.

Yn ôl uwch-gynhyrchydd y rhaglen, Bedwyr Rees, mae llwyddiant y gyfres yn brawf bod lle i ehangu ar gynyrchiadau tebyg yng ngogledd Cymru er mwyn annog pobl i aros yn yr ardal.

Mae dros 100 o bobl bellach yn gweithio ar y gyfres - gan gynnwys actorion, ysgrifenwyr, cynhyrchwyr a chriwiau technegol.

Cafodd Rownd a Rownd ei darlledu yn gyntaf yn ôl ym mis Medi 1995 gyda'r rhan fwyaf o'r gwaith ffilmio yn digwydd yn nhref Porthaethwy, o dan y ffugenw Glanrafon.

Erbyn hyn, mae'r rhan fwyaf o'r gwaith ffilmio dan do neu ar setiau yn digwydd yn stiwdio Aria yn Llangefni, a chafodd ei hagor yn ystod cyfnod y pandemig.

Yn ôl y cwmni sy'n cynhyrchu'r gyfres, Rondo, mae'r garreg filltir yn brawf o ymrwymiad S4C i'r ardal.

Uwch-gynhyrchydd Rownd a Rownd, Bedwyr Rees, yn sefyll yn un o stiwdios y gyfres, gyda set dillad gweithgareddau awyr agored y tu ol iddo. Mae'n sefyll yng nghanol y llun gan wenu ar y camera.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bedwyr Rees yn dweud bod y gyfres yn "cyflogi nifer fawr o bobl"

"'Da ni'n amcangyfrif dros 30 mlynedd fod buddsoddiad S4C yn yr ardal yn dros £175m, ac mae'r rhan fwyaf o hynny yn gyflog," meddai Bedwyr Rees.

"Mae 97% o hwnna'n cael ei wario mewn dwy sir, Môn a Gwynedd - siroedd sydd ar sawl cyfri' yn ddifreintiedig, felly mae'n cyflogi nifer fawr o bobl."

Yn ôl Mr Rees, mae llwyddiant y gyfres dros y 30 o flynyddoedd yn brawf o bwysigrwydd y sector creadigol yng ngogledd Cymru.

"Mae'n fuddsoddiad real," ychwanegodd.

"Mae'n galluogi pobl i aros yn yr ardal yma, i fagu plant yn yr ardal yma yn y cadarnleoedd ac mae hynny'n rhywbeth o werth gwirioneddol.

"Be 'da ni angen ei wneud rŵan yn y gogledd ydi tyfu'r diwydiant yn ehangach fel bod mwy a mwy o bobl... nid yn unig hyfforddi pobl, ond eu cadw nhw yma."

Llun o Jane Walsh yn sefyll o flaen ei chaffi a'i bwyty, gan wisgo ei ffedog a'i het coginio. Mae hi'n gwenu ar y camera ac mae hi'n ddiwrnod braf.
Disgrifiad o’r llun,

Mae perchennog caffi a bwyty'r ardal, Jane Walsh, yn dweud bod y busnes yn gweld gwerth cael y cast a'r criw cynhyrchu yn yr ardal

Yn ogystal â chynnig swyddi i'r rheini sy'n gweithio'n uniongyrchol ar y gyfres, mae gwaith hefyd ar gael drwy'r gadwyn gyflenwi ac i fusnesau lleol.

Yn ôl Rondo, mae gwaith ymchwil gan gwmni Wavehill yn awgrymu bod bob "£1 o fuddsoddiad sy'n dod gan S4C gwerth £1.95 yn ehangach yn yr economi".

Gyda lot fawr o'r gwaith ffilmio yn digwydd yng nghanol tref Porthaethwy, mae Jane Walsh, sydd â chaffi a bwyty yn y dref, yn dweud bod y busnes yn gweld gwerth cael y cast a'r criw cynhyrchu yn yr ardal.

"Maen nhw'n dod i gael coffi efo ni, weithiau yn cael cinio ac weithiau yn aros efo ni i fyny'r grisiau.

"Maen nhw off am yr haf gyfan ond maen nhw'n dod yn ôl wedyn pan mae'r ysgolion yn dechrau'n ôl. Mae gennym ni bobl yn y gaeaf a'r haf, felly 'da ni'n reit hapus."

Llun o Ioan Prys, perchennog siop gardiau a nwyddau yn y dref, yn sefyll yn ei siop. Gallwch weld yr hyn sydd ar werth y tu ol iddo ac mae'n sefyll yng nghanol y llun gan wenu ar y camera.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ioan Prys yn dweud bod yr actorion a'r gyfres yn "tynnu pobl i mewn i'r ardal"

Neges debyg sydd gan Ioan Prys sydd â siop gardiau a nwyddau Cymraeg ym Mhorthaethwy.

"Maen nhw'n wych, maen nhw 'di bod i mewn ac allan o'r siopau ers blynyddoedd," meddai.

"Nid dim ond yr actorion, mae pobl yn gweld yr actorion yn cerdded o gwmpas, ond mae gennych chi lot o staff sy'n gweithio yno sy'n beth grêt - swyddi da i bobl leol."

Yn ôl dirprwy arweinydd Cyngor Môn, mae lleoliad y gyfres yn cyfrannu'n fawr at yr economi leol ac i brysurdeb canol Porthaethwy.

"Does dim dwywaith amdani, â ni ar ochr stryd brysur fan yma ac mae'r lle ar agor i'r cyhoedd," meddai Robin Wyn Williams.

"Mae pobl yn dod yma i weld y set felly mae'n tynnu pobl i mewn i'r dref, sy'n fendigedig.

"Mae'r caffis, tai bwyta, a'r gwestai yn y dref, maen nhw gyd wedi cael gwerth economaidd allan o fodolaeth 'Rownd a Rownd' dros y blynyddoedd."

Wrth nodi'r garreg filltir, bydd cyngerdd yn cael ei chynnal yng nghanolfan Pontio nos Sadwrn.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.