Dave Burns: Teyrngedau i un o sylfaenwyr Ar Log a The Hennessys
- Cyhoeddwyd
Mae nifer o deyrngedau wedi'u rhoi i Dave Burns, un o sylfaenwyr y bandiau poblogaidd The Hennessys ac Ar Log, sydd wedi marw yn 77 oed.
Wrth roi teyrnged iddo mae sawl un wedi cyfeirio at ei lais unigryw ac at ei ran allweddol yn adfywiad canu gwerin yr 1970au.
Wrth gyhoeddi'r newyddion am farwolaeth Mr Burns ddydd Llun, dywedodd y grŵp Ar Log ar wefan X, neu Twitter gynt, y bydd colled enfawr ar ei ôl.
Mewn teyrnged i Cymru Fyw, dywedodd Dafydd Iwan - sydd wedi perfformio gydag Ar Log ar hyd ei yrfa - fod "Dave yn un o feibion Caerdydd go iawn, a chafodd yrfa hir fel aelod o'r Hennessys ac Ar Log".
"Roedd ganddo stor eang iawn o ganeuon gwerin Gwyddelig, a chyfansoddodd nifer o faledi ei hun, sydd i'w clywed ar ei album 'Last pit in the Rhondda'.
"Roedd yn gyfaill triw, a'i synnwyr digrifwch parod yn ei wneud yn ffrind poblogaidd i nifer fawr o'i ddilynwyr.
"Cafodd salwch hir, dan ofal parhaus ei gymar, a bydd yn gadael bwlch mawr ar ei ôl. Cysga'n dawel Dave."
Ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd y cerddor Geraint Cynan ei fod yn "arloeswr, cyd-gerddor, rhannwr straeon a chaneuon heb ei ail - gŵr caredig, ffraeth a hael - braint oedd rhannu llwyfan, diod, stori a chwerthiniadau lu".
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Cafodd Ar Log ei ffurfio yn 1976 wedi i Bwyllgor Cymreig Gŵyl Lorient ddweud eu bod yn dymuno cael band gwerin traddodiadol yn cynrychioli Cymru yn yr ŵyl yn Llydaw.
Roedd Dave Burns yn ganwr ac yn gitarydd gyda'r grŵp cyn iddo adael yn 1979.
Cafodd grŵp The Hennessys ei ffurfio ryw ddegawd cyn hynny wedi i Mr Burns a Frank Hennessy, y ddau o gymuned Wyddelig Caerdydd, ennill cystadleuaeth dalent wedi'i threfnu gan gyngor y brifddinas.
Gyda Paul Powell fe deithiodd y grŵp o gwmpas Iwerddon, ac wedi iddyn nhw ychwanegu caneuon traddodiadol Cymreig fe ddaethon nhw'n hynod o boblogaidd yng Nghymru a thu hwnt.
'Doniol ac annwyl'
Bu'r awdur Lyn Ebenezer yn gweithio gyda Mr Burns ar y gyfrol 'Yr Hewl a'i Hwyl' - sef cyfrol sy'n olrhain stori'r Hennessys ac yn sgil hynny hanes Gwyddelod alltud Caerdydd.
Wrth siarad â Cymru Fyw dywedodd Mr Ebenezer fod Dave Burns "yn ddyn hynod o annwyl".
"Doedd 'na ddim dyn ffeinach i gael. Ro'dd e'n ddoniol tu hwnt ac roedd ganddo lais anhygoel a dawn i ddweud stori," meddai.
"Rwy'n cofio cwrdd ag e gyntaf yn y 60au ac ro'n i wrth fy modd gyda'r Hennessys a'r Dubliners cyn hynny.
"Fi'n cofio'n iawn am yr Hennessys yn dod i ganu i'r Skinners yn Aberystwyth adeg ymweliad Steddfod yr Urdd â'r dre - ac fe gawson ni amser anhygoel."
Ychwanegodd: "Roedd hi'n fraint cydweithio ar y llyfr gydag e - fe'n ysgrifennu y cyfan yn Saesneg i ddechrau ac yna fi'n cyfieithu.
"Roedd e'n perthyn i gymuned Wyddelig Newtown yng Nghaerdydd - geto sydd wedi diflannu bellach ond roedd e rhwng y bae yng Nghaerdydd a chanol y brifddinas.
"Roedden ni'n dau wedi dechrau cydweithio ar gyfrol Saesneg ar hanes y Gwyddelod yng Nghaerdydd - mae'n golled anferth ar ei ôl."
Mae nifer hefyd wedi cyfeirio at ei ymdrechion niferus yn yr 1980au i godi arian i lowyr yn ystod y streic.
Mae Dave Burns yn gadael gwraig Clare a mab Daniel.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2023