Cyngor Wrecsam yn pleidleisio o blaid cynllun dadleuol

  • Cyhoeddwyd
Stryd yn Wrecsam

Mae cyngor sir Wrecsam wedi pleidleisio o blaid cynllun datblygu lleol dadleuol ar ôl i orchymyn llys ddweud bod yn rhaid iddyn nhw ei dderbyn.

Yr wythnos diwethaf fe glywodd cynghorwyr y gallen nhw wynebu cyfnod o garchar os oedden nhw'n pleidleisio yn erbyn y cynllun am y trydydd tro.

Cyn y bleidlais ddydd Mercher, fe gerddodd rhai cynghorwyr allan o'r siambr i ddangos eu gwrthwynebiad.

Cafodd y cynllun ei dderbyn gyda 26 o blaid ac 11 cynghorydd yn atal eu pleidlais.

Beth yw'r cynllun datblygu lleol?

Mae cynllun datblygu lleol yn ofyniad cyfreithiol i bob awdurdod lleol ac yn nodi ble bydd adeiladau newydd yn cael eu caniatáu a faint o dai sydd eu hangen.

Mae nifer y tai yn cael ei benderfynu ar sail rhagolygon Llywodraeth Cymru o dwf lleol yn y boblogaeth.

Mae swyddogion Cyngor Wrecsam wedi llunio cynllun datblygu lleol, ond cafodd ei wrthod ar ddau achlysur fis Ebrill a mis Mehefin eleni.

Mae cynghorwyr yn pryderu bod 8,000 o dai newydd yn ormod ac na fydd gwasanaethau yn medru dygymod.

Fis Tachwedd, fe aeth grŵp o gwmnïau adeiladu â'r cyngor i'r llys ar gyfer adolygiad barnwrol lle dywedodd y barnwr bod yn rhaid i'r cyngor fabwysiadu'r cynllun.

Wrth siarad yn y drafodaeth ddydd Mercher, fe honnodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Mark Pritchard nad oedd rhai cynghorwyr yn bresennol oherwydd "ofn, braw, bygythiadau, a phwysau".

Fe ofynnodd i brif swyddog cyfreithiol y cyngor i egluro'r sefyllfa i gynghorwyr unigol y bydden yn pleidleisio yn erbyn y cynllun datblygu.

Fe atebodd Linda Roberts bod "potensial" i'r unigolion hynny gyflawni dirmyg llys, ond bod yr union oblygiadau cyfreithiol yn "anhysbys".

'Pobl Wrecsam ar eu colled' yn sgil y bleidlais

Dywedodd Arweinydd Grŵp Plaid Cymru, Marc Jones ei bod hi'n "ddiwrnod drwg i ddemocratiaeth" pan nad oedd cynghorwyr yn cael pleidleisio fel roedden nhw eisiau.

Fe ddywedodd mai cwmnïau datblygu mawr fyddai'n elwa o'r cynllun datblygu lleol ac y byddai pobl Wrecsam ar eu colled.

Wedi iddo siarad fe gerddodd cynghorwyr Plaid Cymru allan o'r siambr.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Cynghorydd Marc Jones ei fod yn "ddiwrnod drwg i ddemocratiaeth"

Ond mynnodd y Cynghorydd Dana Davies o'r grŵp Llafur bod rhaid i'r cyngor ymddwyn yn gyfreithlon.

Fe ddywedodd bod cynghorwyr yn y siambr ddydd Mercher oherwydd bod eu penderfyniad ar ddau achlysur blaenorol wedi bod yn "anghyfreithlon" yn ôl y llys.

Dywedodd bod "rhaid i ddemocratiaeth weithredu o fewn y gyfraith" a bod rhaid i gynghorwyr etholedig dderbyn eu cyfrifoldebau.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nad oes modd iddyn nhw wneud sylw tra bo'r broses gyfreithiol yn parhau.

Pynciau cysylltiedig