YesCymru: Camargraff am sefyllfa ariannol, medd Gwern Gwynfil
- Cyhoeddwyd
Mae "camargraff" o ran nifer aelodau a sefyllfa ariannol mudiad sy'n ymgyrchu dros annibyniaeth, YesCymru, yn ôl y cyn-brif weithredwr cyntaf.
Cafodd Gwern Gwynfil ei ddiswyddo yn ddisymwth wrth i'r mudiad ddweud nad yw'r rôl yn "ariannol ymarferol".
Mae "data gwallus" yn golygu bod ffigwr o 18,000 o aelodau a gyhoeddwyd ar gyfrif cymdeithasol YesCymru ym mis Mawrth 2021 "ddim yn gywir nac yn agos i fod yn gywir", meddai Mr Gwynfil wrth Newyddion S4C.
Mae bwrdd YesCymru wedi cadarnhau bod gan y mudiad dros 7,000 o aelodau yn 2022, ac "heddiw mae gan YesCymru tua 6,500".
Swydd yn dod i ben ar ôl 15 mis
Yn dilyn ei ddiswyddo dydd Llun, dywedodd Mr Gwynfil mai'r esboniad oedd bod "y swydd wedi'i orffen yn ei gyfanrwydd a'i waredu yn llwyr".
"Y llinell yn y llythyr oedd oherwydd gofynion gwahanol i'r busnes," meddai.
"'Nes i ymrwymo i'r swydd am dair blynedd gyda'r dealltwriaeth mai tair blynedd oedd y rôl. Mae'n drueni bod y swydd yna wedi dod i ben ar ôl 15 mis."
Dywedodd YesCymru mai pryder am ddyfodol ariannol y mudiad oedd wrth wraidd y penderfyniad i gael gwared ar swydd y prif weithredwr.
"Roedd mwyafrif y bwrdd yn teimlo y byddai'n anghynaladwy parhau i gyflogi prif weithredwr" meddai datganiad ar ran y Bwrdd Rheoli Cenedlaethol.
"Y bwriad sylfaenol wrth wraidd y syniad o greu'r swydd o brif weithredwr oedd i gynyddu aelodaeth ac incwm y mudiad... Ond dyw aelodaeth YesCymru ddim wedi tyfu ers penodi Gwern."
Ychwanegodd y bwrdd eu bod yn "ffyddiog ein bod wedi gwneud y penderfyniad cywir wrth ystyried yr incwm presennol a'r ffaith bod rhifau ein aelodaeth heb gynyddu".
Mae Mr Gwynfil yn cydnabod bod y cyfnod diweddar wedi bod yn un anodd i fudiadau gwirfoddol a gwleidyddol, ond mae'n amddiffyn perfformiad YesCymru dan ei arweinyddiaeth.
Dywedodd: "Mae pob ymgyrch a phlaid wleidyddol yng Nghymru wedi colli aelodau dros y 12 mis diwethaf. Dyw hynny ddim yn wir am YesCymru."
"Ry'n ni wedi cadw yr un lefel o aelodaeth ac yn wir wedi ychwanegu rhywfaint i'r lefel aelodaeth yna."
Gan gadarnhau mai rhwng 6,000 a 7,000 o aelodau sydd gan y mudiad, dywedodd bod YesCymru "wedi gwneud yn well nag unrhyw sefydliad gwleidyddol arall yng Nghymru [eleni]".
'Penderfyniad anodd'
Yn eu datganiad, dywedodd YesCymru eu bod yn "gwario 20c o bob £1 y mae'n ei derbyn gan aelodau ar gyflog un person yn unig" a bod y bwrdd ddim "yn teimlo bod hynny'n ein galluogi ni i barhau i'r dyfodol ar sylfaen ariannol gadarn".
Ond anghytuno mae Mr Gwynfil, gan ddweud bod "sawl mudiad gwirfoddol lle mae 40-60% o incwm yn mynd ar staffio" a bod "hynny ddim yn anarferol".
Dywedodd y tad i bump ei fod yn edrych ymlaen at Nadolig "prysur" gyda'i deulu, ac y byddai'r gwaith o chwilio am swydd newydd yn dechrau ar ddiwrnod San Steffan.
Fe gadarnhaodd hefyd ei fod yn parhau yn aelod o'r mudiad, ac yn hyderus y byddai ei waith ymgyrchu o blaid annibyniaeth i Gymru yn parhau.
Roedd bwrdd YesCymru am bwysleisio "nad oedd hyn yn benderfyniad hawdd - mae dod â chytundeb unrhyw berson i ben yn benderfyniad anodd, ond gan fod Gwern Gwynfil yn berson mor hoffus a phoblogaidd, roedd y penderfyniad yn anoddach fyth".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd7 Medi 2022