YesCymru: Diddymu rôl prif swyddog am resymau ariannol

  • Cyhoeddwyd
Cafodd Gwern Gwynfil ei benodi gan YesCymru ym mis Medi y llynedd
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Gwern Gwynfil ei benodi gan YesCymru ym mis Medi y llynedd

Mae'r mudiad sy'n ymgyrchu dros annibyniaeth, YesCymru, wedi cyhoeddi na fydd yn parhau i gyflogi prif swyddog gweithredol.

Er mai dim ond ym mis Medi y llynedd y cafodd Gwern Gwynfil ei benodi i'r swydd, mae'r bwrdd wedi cyhoeddi nad yw'r rôl bellach yn "ariannol ymarferol".

Ers ei sefydlu yn 2016, mae'r mudiad wedi cynnal sawl rali ar draws y wlad yn ymgyrchu dros annibyniaeth i Gymru.

Mae BBC Cymru wedi ceisio cysylltu gyda Gwern Gwynfil am sylw.

Mewn datganiad dywedodd Cadeirydd YesCymru, Barry Parkins: "Er mwyn sicrhau bod cyllid YesCymru yn parhau mewn sefyllfa iach, penderfynodd mwyafrif Bwrdd Cyfarwyddwyr YesCymru y byddai'n anghynaladwy i barhau i gyflogi Prif Swyddog Gweithredol.

"Ar hyn o bryd, mae'r rhan fwyaf o sefydliadau yn gorfod rhesymoli eu cyllid.

"Mae YesCymru yn sefydliad aelodaeth ac mae gan y bwrdd gyfrifoldeb i sicrhau bod arian aelodaeth yn cael ei wario'n ddoeth."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd sawl rali eu cynnal gan YesCymru ers 2019, gan gynnwys un yng Nghaernarfon

Roedd aelodaeth y grŵp wedi neidio o 2,000 ar ddechrau 2020 i dros 18,000 y flwyddyn ganlynol.

Ond fe ddisgynnodd y niferoedd i lai na hanner hynny erbyn 2022 yn dilyn trafferthion gweinyddol a ffraeo mewnol.

Yn fuan wedi ei benodiad dywedodd Mr Gwynfil fod "gwersi wedi eu dysgu", ac y byddai'r mudiad yn canolbwyntio ar "greu fforwm i bobl drafod posibiliadau annibyniaeth".

'Rhesymau ariannol yn unig'

Ddydd Mercher, ychwanegodd bwrdd YesCymru bod y penderfyniad wedi ei wneud "am resymau costau yn unig" a'u bod wedi ceisio cysylltu â Mr Gwynfil i gadarnhau'r penderfyniad.

"Mae'r drafodaeth am sefyllfa'r Prif Swyddog Gweithredol wedi bod yn mynd rhagddi dros yr ychydig fisoedd diwethaf, roedd y Prif Swyddog Gweithredol yn ymwybodol ohono ac nid oedd yn benderfyniad hawdd i'w wneud.

"Ond weithiau mae'n rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd er lles y sefydliad, tra'n cydnabod y gall lleiafrif o gyfarwyddwyr anghytuno â phenderfyniad mwyafrif y bwrdd."

Pynciau cysylltiedig