Machynlleth: Pont ar Ddyfi wedi ailagor yn dilyn llifogydd
- Cyhoeddwyd

Yr olygfa o ochr Machynlleth yn anelu am y gogledd wrth Bont ar Ddyfi
Mae pont sy'n gysylltiad pwysig rhwng y de a'r gogledd wedi ailagor yn dilyn llifogydd difrifol.
Bu'n rhaid cau Pont ar Ddyfi ym Machynlleth i'r ddau gyfeiriad dydd Sul yn dilyn tywydd garw.
Roedd y ffordd yn dal ar gau fore Llun, ond erbyn prynhawn Llun roedd Traffig Cymru wedi cadarnhau fod yr A487 ar agor unwaith eto.
Dywedodd Olwen Fôn Williams, a oedd yn bwriadu gyrru dros y bont ddydd Sul, wrth Cymru Fyw ei bod "erioed wedi gweld llifogydd o'r fath".
"Roedd yr arwydd fod y ffordd ar gau wedi chwythu drosodd felly welson ni ddim arwydd tan i ni sylwi bod y golau coch yn barhaol wrth y bont," meddai.
"Mae'n wael iawn yn yr ardal."
Daeth rhybudd melyn gan y Swyddfa Dywydd am law trwm i ben nos Sul, ond mae rhybudd arall wedi ei gyhoeddi ar gyfer dydd Mercher.
Dywed Traffig Cymru fod yr A487 rhwng Machynlleth a Ffwrnais bellach wedi ailagor hefyd.
Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod yn disgwyl i lefelau afonydd yn yr ardal fod yn uwch na'r arferol., dolen allanol

Roedd llifogydd yn amlwg yn ardal Dyffryn Dyfi fore Sul

Mae disgwyl i'r gwaith ar ran newydd o'r A487 i'r gogledd o Fachynlleth, gan gynnwys pont newydd ar draws yr Afon Dyfi, gael ei gwblhau yn gynnar yn 2024.
Dywed Llywodraeth Cymru fod y cynllun £46m, dolen allanol ar waith am nad ydy'r bont bresennol wedi "ei chynllunio ar gyfer y lefelau traffig sy'n ei chroesi erbyn hyn".
"Mae'r ffordd ar gau'n aml oherwydd llifogydd rheolaidd ac mae hynny'n arwain at wyriad o hyd at 30 milltir i draffig," meddai'r llywodraeth.
Yn y cyfamser, mae cwmni bysiau Lloyds Coaches wedi cyhoeddi newidiadau i'w hamserlen, dolen allanol nhw oherwydd fod y bont wedi cau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2015