Hwyliwr amatur yn gadael ras rownd y byd yn gynnar

  • Cyhoeddwyd
Er y siom, mae Dafydd Hughes yn dweud ei fod yn fodlon ac yn falch o'i gampFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Er y siom, mae Dafydd Hughes yn dweud ei fod yn fodlon ac yn falch o'i gamp

Mae hwyliwr amatur o Geredigion yn treulio'r Nadolig ar dir sych ar ôl penderfynu gadael ras o amgylch y byd oherwydd problemau technegol.

Roedd Dafydd Hughes o Dal-y-Bont ger Aberystwyth yn cystadlu yn y Global Solo Challenge (GSC) - her hwylio unigol, heb gymorth, o gwmpas y byd.

Ond mae e wedi gorfod tynnu allan ar ôl i nam trydanol gyda system awto-beilot ei gwch.

Mae e bellach yn Hobart yn Awstralia o le bydd yn hedfan yn ôl i Gymru ar 1 Ionawr.

Mae'r cystadleuwyr yn dechrau o A Coruña yng ngogledd Sbaen gyda'r nod o hwylio o amgylch y byd gan basio tri phenrhyn mawr - Penrhyn Gobaith Da, Penrhyn Leeuwin a'r Horn yn Ne America.

Ers gadael Sbaen ar ddechrau'r her ym mis Awst, treuliodd Dafydd fwy na 100 o ddiwrnodau ar y môr.

Bu'n hwylio ar ei ben ei hun hanner ffordd o amgylch y byd cyn i'r broblem dechnegol daro tua 700 milltir o arfordir de Awstralia.

Doedd Dafydd ddim yn gallu trwsio'r nam ar y môr ac felly roedd rhaid iddo ddargyfeirio ei gwch - 'Bendigedig' - i'r porthladd yn Tasmania.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Er iddo beidio â chwblhau'r her, mae Dafydd yn dweud ei fod yn teimlo'n fodlon ac yn falch o'i gamp.

"Rwy'n teimlo'n dda ac yn fodlon y tu mewn oherwydd yr hyn dwi wedi cyflawni ar yr antur gyfan," meddai.

"Mae tair blynedd bron wedi pasio ers i fi gofrestru [ar gyfer y GSC] a dechrau gweithio ar Bendigedig.

"Dwi ddim wedi cael y diweddglo ro'n i wedi gobeithio cael, ond mae e dal yn ddiwedd hapus.

"Yn yr amser dwi wedi treulio ar y tir a chael adborth a'r holl negeseuon hyfryd, mae'n dechrau gwawrio arna i beth dwi wedi'i wneud o baratoi'r cwch o ddim byd ac yna hwylio'n ddi-stop, ar ben fy hun hanner ffordd o gwmpas y byd.

"Does dim llawer o bobl yn gallu dweud hynny."

Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i Dafydd roi'r gorau iddi oherwydd nam trydanol gyda system awto-beilot ei gwch, Bendigedig

Mae system awto-beilot Bendigedig bellach wedi'i atgyweirio a bydd hi'n mynd ar werth yn Hobart yn y flwyddyn newydd.

Dywed Dafydd nad oes ganddo unrhyw fwriad i fynd ar unrhyw anturiaethau eraill ar y môr yn y dyfodol agos.

"Fel maen nhw'n dweud, dwi wedi rhoi tic yn y bocs yna am y tro!" meddai.

Pynciau cysylltiedig