Cymro o Dal-y-bont yn hwylio yn ddi-stop rownd y byd
- Cyhoeddwyd
Bydd morwr amatur o Geredigion yn gadael Cymru heddiw i ddechrau paratoi er mwyn hwylio o amgylch y byd ar ei ben ei hun heb stopio.
Bydd Dafydd Hughes, sy'n 63 oed ac yn dod o Dal-y-bont, yn hwylio o Aberystwyth i A Coruña yng ngogledd Sbaen lle bydd yn dechrau'r her ar 26 Awst.
Mae Dafydd yn disgrifio'r ras dros 26,000 o filltiroedd morol fel "her aruthrol" a bydd yn ceisio ei chyflawni mewn cwch sydd wedi'i hadnewyddu wedi iddo dreulio 15 mlynedd mewn sied yng Ngheredigion.
Teithio am 200 diwrnod
Dafydd fydd yr unig gystadleuydd o'r Deyrnas Unedig fydd yn cymryd rhan yn y Global Solo Challenge.
Mae'n her ar gyfer hwylwyr unigol sydd yn ceisio teithio o gwmpas y byd heb stopio gan hwylio trwy'r cefnforoedd deheuol a phasio rhwng Antartica a'r penrhynau mawr. Mae'n hefyd rhaid iddyn nhw gario'r holl fwyd a thanwydd sydd eu hangen arnynt.
Dywedodd Dafydd: "Mae'n her aruthrol a hyd yn hyn dim ond tua 180 o bobl sydd wedi llwyddo i'w chyflawni. Cafodd ei gwneud am y tro cyntaf yn 1969 gan Syr Robin Knox Johnston. Dyma Everest y byd hwylio!
"Chi'n gadael A Coruña ac yn troi i'r chwith, wedyn mynd yr holl ffordd i lawr a theithio o gwmpas Antartica, gan basio Penrhyn Gobaith Da yn Ne Affrica, Penrhyn Leeuwin yn Awstralia ac yna cadw ymlaen i ben deheuol De America, ac yn ôl i fyny eto i orffen yn A Coruña.
"Does dim stopio. Ry'ch chi ar y cwch ac ar eich pen eich hun. Dwi'n meddwl bydd yn cymryd 200 o ddyddiau i fi.
"Chi'n cyfrifo hynny ar sail eich cyflymder cyfartalog a'r cwrs gorau o gwmpas, yna chi'n gallu amcangyfrif faint o fwyd mae angen a thanwydd i gadw'r trydan i fynd, a'r batris ar y cwch.
"'Wi'n dibynnu ar y gwynt i symud, ond mae angen trydan i redeg yr auto pilot. Pan dwi'n cysgu neu'n gwneud rhywbeth arall mae angen hwnnw i yrru'r cwch.
"Bydda i ar ben fy hun ond bydda i'n gallu cyfathrebu o'r cwch i'r lan - trwy ffôn, neu e-bost a bydda i'n gallu anfon lluniau hefyd."
Tonnau enfawr ac amodau peryglus
Os yw Dafydd yn llwyddo i gwblhau'r her mae'n dweud mai fe fydd yr ail Gymro i gyflawni'r gamp. Y cyntaf oedd Alex Thomson, morwr proffesiynol o Fangor, sydd wedi cymryd rhan yng nghystadleuaeth y Vendee Globe droeon.
Mae Dafydd - a ddechreuodd hwylio pan oedd yn 45 oed - yn disgrifio'i hun fel "morwr Corinthaidd" neu "un sydd ddim yn broffesiynol ond sydd wedi gwneud cryn dipyn o filltiroedd."
Bydd yr her o deithio o gwmpas y byd fel capten unigol yn enfawr.
Mae gwefan Global Solo Challenge yn dweud bod y gwynt yng nghefnforoedd y de "yn gallu cyrraedd cyflymder o fwy na 100 km/a c maen nhw'n achosi tonnau mawr a moroedd garw… gall y gwyntoedd hyn fod yn anrhagweladwy ac yn beryglus."
Ond mae gan Dafydd brofiad o'r amodau hyn. Hwyliodd o gwmpas y byd fel aelod o griw mewn ras yn 2007/08.
Dywedodd: "Yn y cefnfor deheuol does dim tir i wasgaru'r tonnau a'r gwyntoedd. Maen nhw i gyd yn cael eu gwasgu i'r bwlch rhwng de America ac Antartica sy'n enwog yn y byd hwylio.
"Ond ry'n ni'n mynd drwodd yn y ffenest tywydd gorau ac mae trefnwyr y ras yn gosod terfyn amser i ni gyrraedd yno. Felly os na fyddwn yn cyrraedd mewn pryd, bydd rhaid i ni adael y ras. Mae 'na lawer o ystyriaethau diogelwch.
"Y fantais sydd gen i yw fy mod i wedi bod o gwmpas y byd unwaith o'r blaen ar gwch hwylio gyda chriw. 'Dw i wedi bod i lawr i'r cefnfor deheuol, felly dwi'n gwybod ble 'wi'n mynd a beth i ddisgwyl.
"I lawr f'yna, mae'r tonnau'n fawr iawn. Maen nhw'n codi'r cwch, y cwch cyfan, a chi'n syrffio i lawr y don. Gallan nhw fod yn 20 metr o uchder.
"Ond wedyn, y peth arall gewch chi ydi'r lliwiau ar eu topiau - y gwyrdd a'r glas, pan mae'r haul yn tywynnu drwyddyn nhw. Maen nhw jyst yn anghredadwy. Maen nhw'n anhygoel o bwerus a hardd.
"Mae'r cychod hyn yn cael eu gwneud ar gyfer yr amodau hynny. Mae'r dylunwyr wedi ystyried y grymoedd y byddan nhw yn wynebu. Os y'ch chi'n gofalu am y cwch, bydd y cwch yn gofalu ar eich ôl chi."
'Gorffen yn fuddugoliaeth'
Enw cwch Dafydd yw 'Bendigedig' - fe brynodd hi gan ffrind oedd wedi ei chadw mewn sied am tua 15 mlynedd. Sparkman a Stephens 34 yw'r gwneuthuriad a chafodd ei hadeiladu yn 1971.
"Dim ond y corff a'r dec oedd ganddi," meddai Dafydd. "Ond mae hi wedi'i gwneud o blastig wedi'i atgyfnerthu â gwydr, felly o dan faw y colomennod a gwellt roedd hi mewn cyflwr da, roedd popeth yn gadarn.
"Mae hi'n 34 troedfedd o hyd, a fi sydd a'r cwch byrraf yn y fflyd a'r cwch arafaf - neu'r un arafaf yn ôl pob sôn!
"Mae yna ugain o gychod yn cymryd rhan yn yr her ac mae tua 10 wythnos o fwlch rhyngof i yn dechrau fel y cwch cyntaf a'r cwch olaf, felly byddwn yn hwylio mewn systemau gwynt hollol wahanol."
Felly beth mae llwyddiant yn ei olygu i Dafydd?
"Yn bennaf, cwblhau'r her. I mi, mae hynny'n fuddugoliaeth. Bydd lle ydw i wedyn o fewn y fflyd yn dibynnu cryn dipyn ar y duwiau gwynt oherwydd bod y fflyd mor wasgaredig.
"Ond i mi, mae gorffen yn fuddugoliaeth. Yna yn ail, dwi eisiau mwynhau'r profiad. Ac yn drydydd, tybed a allwn i ysbrydoli rhywun arall i'w wneud."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mai 2022
- Cyhoeddwyd16 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf 2023