Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Caerdydd 55-21 Dreigiau

  • Cyhoeddwyd
Josh Adams a Ben ThomasFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency

Cafodd y Dreigiau grasfa gan dîm y brif ddinas mewn gêm a welodd 12 cais i gyd, gyda naw o'r rheini yn cael eu sgorio gan y tîm cartref.

Roedd hi'n gêm unochrog o'r cychwyn gyda Chaerdydd yn sgorio saith cais cyn yr egwyl.

Sgoriodd Rhys Carre, James Botham a Tomos Williams ddau gais yr un, gyda de Beer yn ychwanegu 10 pwynt â'i droed.

Dyma'r deunawfed tro o'r bron i Gaerdydd guro'r Dreigiau, ffaith a fyddai wedi plesio mwyafrif y dorf o 12,000 a ddaeth i wylio'r gêm.

Nid felly cefnogwyr y Dreigiau, gyda'u tîm wedi ei angori'n gadarn ar waelod y bencampwriaeth.